Rhaglen Grantiau Datblygu Rhaglen yr NIHR
Mae'r rhaglen gyllido hon ar agor o'r newydd i ymchwilwyr yng Nghymru
Mae Grantiau Datblygu Rhaglen (PDG) NIHR wedi'u cynllunio i alluogi tîm ymchwil i wneud gwaith paratoi wedi'i dargedu i ddatblygu cais cystadleuol am gyllid Grantiau Rhaglen ar gyfer Ymchwil Gymhwysol (PGfAR). Gellir eu defnyddio hefyd i ddatblygu ymhellach rhaglen ymchwil sy'n bodoli eisoes neu sy’n parhau a ariennir gan PGfAR.
Ariennir y Rhaglen PDG gan yr NIHR gyda chyfraniadau penodol gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Swyddfa’r Prif Wyddonydd yn yr Alban, ac Adran Ymchwil a Datblygu Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus Gogledd Iwerddon.
Mae tri chyfle cyllido y flwyddyn i PDG fel arfer yn cael eu lansio ym mis Mawrth, mis Gorffennaf a mis Tachwedd.
Mae mwy o wybodaeth a sut i wneud cais ar wefan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal.