Pregnant woman holding colourful umbrella

Yr ymchwil i ganfod pa mor ddiogel yw brechiadau COFID-19 I ferched beichiog

3 Tachwedd

Canfu adolygiad o dystiolaeth ymchwil o Ganolfan Tystiolaeth COFID-19 Cymru (WCEC) bod brechiadau COFID-19 yn ddiogel ac yn effeithiol i'w rhoi unrhyw adeg yn ystod beichiogrwydd ac yn ystod cyfnod bwydo o'r fron.

Yn yr adroddiad, a ddatbygwyd mewn partneriaeth gydag Uned Arbenigol  Adolygu Tystiolaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, mae'r WCEC yn argymell bod gweithwyr gofal proffesiynol yn cynghori'r rhai sydd yn feichiog i gael y frechiad, yn enwedig os ydynt yn perthyn i grŵp sydd dan risg.

O'r gwaith ymchwil, canfu'r Ganolfan hefyd bod risg cynyddol o fod yn wael iawn gyda COFID-19 yn ystod beichiogrwydd a bod y rhai sydd yn dal y feirws yn fwy tebygol o gael cymhlethdodau megis geni'n gynamserol neu farw eni. 

Dywed yr adroddiad bod dros 200,000 o ferched ar draws y DU ac UDA wedi cael brechiad COFID-19 tra'n feichiog ac nad oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod y brechu yn achosi niwed i'r plentyn yn y groth, nac unrhyw effaith ar ffrwythlondeb, nac ychwaith unrhyw risg i'r plentyn tra'n bwydo o'r fron.

Ym mis Gorffennaf 2021, bu i'r Coleg Brenhinol Obstrectwyr a Gynolegwyr ddiweddaru eu canllawiau ac argymell brechu yn erbyn COFID-19 yn ystod beichiogrwydd. Fodd bynnag, mae niferoedd y rhai yn y grŵp hwn sydd yn cymryd y frechiad yn parhau yn isel, gan arwain at nifer uwch o ferched beichiog yn gorfod mynd i ysbyty o achos y feirws.

Dyma ddywedodd yr Athro Adrian Edwards, Cyfarwyddwr Canolfan Tystiolaeth COFID-19 Cymru: ‘Roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru ac arweinwyr polisi brechu o fewn Llywodraeth Cymru angen crynodeb brys o'r dystiolaeth ynghylch risgiau COFID-19 mewn beichiogrwydd a risgiau a manteision brechu yn ystod beichiogrwydd. 

Llwyddodd Canolfan Tystiolaeth COFID-19 Cymru i ddwyn ynghyd dystiolaeth oddi wrth gyfarwyddyd ac argymhellion chwe sefydliad - yn cynnwys Sefydliad Iechyd y Byd, Grwp Gwyddonol Ymgynghorol ar gyfer Argyfyngau ac Asiantaeth Rheoleiddio Cynnyrch Meddygol  a Gofal Iechyd - fel ei fod yn gallu helpu merched beichiog, bydwragedd a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes gofal iechyd i gael mynediad at wybodaeth berthnasol a gwneud penderfyniadau doeth ynghylch y camau gorau i'w cymryd.’

Dywedodd yr Athro Julia Sander, Arweinydd Arbenigol mewn Iechyd Atgenhedlu, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru : ‘Mae'r neges yn glir, mae brechu yn ystod beichiogrwydd yn ddiogel, yn lleihau'r perygl o ddal niwmonia, yn lleihau'r defnydd o unedau gofal arbennig, genedigaethau cynamserol a marwolaethau ymhlith babanod. Mae'r adroddiad hwn yn rhoi sicrwydd pendant bod brechu yn ystod cyfnod beichiogrwydd yn ddiogel ac yn effeithlon.’

Cafodd WCEC ei sefydlu ym Mawrth 2021 gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar ran Llywodraeth Cymru i adolygu'r toreth ymchwil COFID-19 hanfodol oedd ar gael, a gwneud yn siwr bod y dystiolaeth a ddefnyddir I lunio penderfyniadau iechyd a gofal cymdeithasol ar COFID-19 yn gyfredol ac yn berthnasol I Gymru.

I  gael y wybodaeth berthnasol a'r adroddiadau diweddaraf gan WCEC, dilynwch Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar Twitter.