Ysgrifennwr Ceisiadau Datblygu Ymchwil - Prifysgol Abertawe
Mae gennym raglen waith gyffrous, sydd wedi ei hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy'n canolbwyntio ar blant yn y system gofal cymdeithasol. Rydym yn chwilio am Ysgrifennwr Ceisiadau Datblygu Ymchwil i ymuno â'n tîm, i gefnogi ceisiadau am gyllid sy'n canolbwyntio ar gysylltiad plant â gofal cymdeithasol; bydd deiliad y swydd felly'n cyfrannu at baratoi, drafftio a golygu ceisiadau am gyllid yn rhagweithiol i sicrhau bod yr holl geisiadau'n cael eu hysgrifennu'n dda, eu bod o safon uchel, a'u bod yn hygyrch i ddarllenwyr lleyg.
Bydd deiliad y swydd hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr yng Nghanolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) ym Mhrifysgol Caerdydd, sef y ganolfan fwyaf blaenllaw yn y DU am ymchwil werthusol i ofal cymdeithasol plant. Byddant hefyd yn gweithio gyda phartneriaid academaidd ac anacademaidd eraill a all fod yn rhan o'r ceisiadau.
SU00866