Ydych chi rhwng 18 a 24 oed ac yn defnyddio gwelyau haul neu wedi’u defnyddio?
Prosiect fydd yn archwilio barn pobl ifanc sy'n defnyddio gwelyau haul am ddewisiadau eraill yn hytrach welyau haul.
Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
- Defnyddio gwelyau haul neu wedi’u defnyddio yn y gorffennol
- Yn gyfforddus yn rhannu eich profiad gydag ymchwilwyr
Mwy o wybodaeth
Mae pobl ifanc yn dal i ddefnyddio gwelyau haul er gwaethaf gwybodaeth eang eu bod yn cynyddu'r risg o ganser y croen. Mae’r tîm prosiect eisiau cynnal arolwg ar-lein i archwilio pam mae oedolion ifanc yn defnyddio dewisiadau eraill i welyau haul ai peidio.
Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
Hoffai’r tîm prosiect glywed eich syniadau am y prosiect, gan sicrhau bod yr wybodaeth y maen nhw’n ei defnyddio yn hawdd ei deall.
Pa mor hir fydd fy angen?
Bydd panel cynnwys y cyhoedd yn cyfarfod ddwywaith ar-lein, cyn ac ar ôl casglu’r data.
Beth yw rhai o'r buddion i mi?
Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn:
- Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).
Byddwch yn
- Helpu i ddylunio astudiaethau ymchwil ac ennill profiad gwerthfawr ym maes ymchwil iechyd cyhoeddus, eiriolaeth ac ymgysylltu â'r gymuned
- Lleihau'r risg o ddifrod gan yr haul a chyflyrau iechyd eraill sy'n gysylltiedig â defnyddio gwelyau haul
- Ymestyn Gwybodaeth: Helpu ymchwilwyr i ddeall effeithiau gwelyau haul a chreu strategaethau atal
- Cyfrannu at Iechyd y Cyhoedd: Chwarae rhan hanfodol wrth leihau risgiau canser y croen trwy hyrwyddo dewisiadau eraill mwy diogel i welyau haul.
- Cysylltu â gweithwyr iechyd proffesiynol, ymchwilwyr, a chyd-wirfoddolwyr sy'n angerddol dros wneud gwahaniaeth. Grymuso: Cymryd rhan weithredol wrth ddiogelu iechyd pobl ifanc a hyrwyddo newid cadarnhaol, gan gynnwys addysgu'r gymuned am beryglon gwelyau haul a manteision dewisiadau iachach.
Edrychwch ar ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn.
Os ydych yn cael unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cynghori ar Fudd-daliadau ar gyfer Cyfranogi.
Pa gefnogaeth sydd ar gael?
Bydd aelod o’r tîm prosiect yn rhoi cymorth a hyfforddiant.
Sut ydw i'n ymgeisio?
Llenwch y ffurflen ar-lein a dywedwch wrthym sut yr ydych chi'n bodloni’r profiad angenrheidiol.
Ansicr sut i lenwi 'r ffurflen ar-lein neu hoffech drafod cyfle ymhellach?
Yna gall y tîm eich helpu, cysylltwch â ni trwy e-bost i drefnu sgwrs.
Mae mynediad at unrhyw wybodaeth yr ydych chi’n ei rhannu â ni yn ddiogel, yn gyfyngedig ac yn cael ei thrin yn gyfrinachol.
Beth fydd yn digwydd nesaf.
Os yw eich cais yn cyd-fynd â'r profiad gofynnol, caiff ei anfon at arweinydd y prosiect.
Byddwn yn cysylltu â chi gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd eich cais.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni drwy e-bost neu ffoniwch 02920 230 457.
Categori cyfle:
gwyrdd
Dyddiad cau:
Lleoliad:
Ar-lein
Sefydliad Lletyol:
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro