Ydych chi'n rhoddwr bôn-gelloedd sydd eisiau cael effaith ar ddyfodol gofal iechyd?

Beth am helpu ymchwilwyr i ddatblygu ffyrdd newydd o drin clefydau gan gynnwys heintiau, canser ac awtoimiwnedd?

Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • diddordeb mewn ymchwil i'r system imiwnedd
  • bod wedi eich cofrestru fel rhoddwr bôn-gelloedd
  • teimlo'n gyfforddus yn rhannu eich profiadau gydag ymchwilwyr ac aelodau eraill o'r cyhoedd

Mwy o wybodaeth

Mae celloedd-T yn chwarae rhan allweddol wrth helpu'r corff i adnabod clefydau fel canser, wrth i’r  system imiwnedd helpu i'n hamddiffyn rhag firysau a bacteria.

Pan fydd celloedd-T yn dod ar draws feirws newydd, maent yn gweithredu i'w ddileu. Maent yn dechrau adnabod y feirws ac yn creu "cof" ohono, felly os yw'r corff yn wynebu'r feirws hwnnw eto, mae'r celloedd-T yn gwybod sut i'w ymladd.

Mae'r tîm ymchwil eisiau deall sut mae celloedd-T yn ymddwyn yn wahanol mewn gwahanol grwpiau o bobl. Mae'r rhan fwyaf o astudiaethau ar gelloedd T wedi canolbwyntio ar bobl o dras Ewropeaidd, gan adael bwlch mewn gwybodaeth o ran sut mae celloedd-T yn gweithio mewn pobl o gefndiroedd eraill. Mae'r gwahaniaeth hwn yn amlygu'r angen am fwy o ymchwil i sicrhau bod celloedd-T yn cael eu defnyddio'n effeithiol ac yn deg wrth drin afiechydon i bawb.

Beth fydd gofyn i mi ei wneud?

Bydd gofyn i chi ddarllen  cynnig yr astudiaeth a phenderfynu pa rannau o'r prosiect sy’n bwysicaf . Bydd hyn yn helpu'r tîm ymchwil i ddeall yn well yr hyn sy'n helpu pawb, o ble bynnag y maen nhw'n dod neu bwy bynnag yr ydyn nhw.

Pa mor hir fydd fy angen?

Cyfanswm o chwe awr – bydd gofyn i chi fod mewn dau gyfarfod, dwy awr o hyd, a threulio awr yn darllen deunydd cyn pob cyfarfod. 

Beth yw rhai o'r buddion i mi?

Buddion i chi :

  • Cyfle i ddysgu mwy am sut mae modd defnyddio celloedd-T i frwydro yn erbyn clefydau
  • Cyfle i gael effaith wirioneddol ar ddyfodol gofal iechyd

Bydd ein tîm yn: 

  • Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol,
  • Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).

Edrychwch ar ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn.

Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cynghori ar Fudd-daliadau ar gyfer Cyfranogi.

Pa gefnogaeth sydd ar gael?

Bydd aelod o'r tîm astudio ar gael i roi cymorth, a bydd pecyn gwybodaeth yn cael ei anfon cyn y cyfarfodydd. Bydd y pecyn hwn yn disgrifio cefndir a nodau'r prosiect.

Sut ydw i'n ymgeisio?

Llenwch y ffurflen ar-lein a dywedwch wrthym sut yr ydych chi'n bodloni’r profiad angenrheidiol. 

Ansicr sut i lenwi’r ffurflen ar-lein neu hoffech drafod cyfle ymhellach?

Yna gall y tîm eich helpu, cysylltwch â ni trwy e-bost i drefnu sgwrs.

Mae mynediad at unrhyw wybodaeth rydych yn ei rhannu â ni yn ddiogel, yn gyfyngedig ac yn cael ei thrin yn gyfrinachol.

Beth fydd yn digwydd nesaf.

Os yw eich cais yn cyd-fynd â'r profiad gofynnol, caiff ei anfon at arweinydd y prosiect.

Byddwn yn cysylltu â chi gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd eich cais.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni drwy e-bost neu ffoniwch 02920 230 457.

Categori cyfle:
gwyrdd

Dyddiad cau:

Lleoliad:
Ar-lein

Sefydliad Lletyol:
Prifysgol Caerdydd

Submit Expression of Interest