8 mater allweddol y mae Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru wedi’u hadolygu hyd yma
Fis Mawrth 2021, gosodwyd tasg i Ganolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru (WCEC) adolygu cyfoeth y dystiolaeth ymchwil COVID-19 sydd ar gael i wneud yn siŵr bod y rheini sy’n gwneud penderfyniadau’n meddu ar y dystiolaeth fwyaf cyfoes i helpu i wneud penderfyniadau allweddol ynglŷn â pholisi ac arfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Hyd yma, mae’r Ganolfan, sy’n rhan o Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi adolygu ymchwil i nifer o feysydd, gan gynnwys yr wyth pwnc allweddol hyn:
Mae WCEC wedi adolygu tystiolaeth ynglŷn â defnyddio dyfeisiau y mae cleifion yn gallu eu defnyddio i fonitro lefelau ocsigen yn y cartref i lywio penderfyniadau ynglŷn â’r gofal y mae cleifion COVID-19 yn ei dderbyn oddi wrth eu meddyg teulu, ac ynglŷn â’u derbyn i’r ysbyty.
O’u hadolygiad, daeth y Ganolfan i’r casgliad ei bod yn aneglur p’un a yw’r dyfeisiau yn ddiogel neu’n gost-effeithiol. Ni wnaethon nhw ddod o hyd i ddigon o dystiolaeth i gefnogi defnyddio’r dyfeisiau hyn i wneud penderfyniadau ynglŷn â gofal cleifion.
Mae brechu’n hanfodol i frwydro yn erbyn COVID-19, ond mae cyfraddau’r bobl o boblogaethau heb eu gwasanaethu’n ddigonol, fel grwpiau lleiafrifoedd ethnig, pobl ddigartref neu ymfudwyr, sy’n manteisio ar y brechlyn yn isel.
Bu gwaith hanfodol gan WCEC yn edrych ar y dystiolaeth ynglŷn â rhwystrau rhag brechu yn y cymunedau hyn a bu’n adolygu ymchwil i sut y gellid cynyddu nifer y bobl sy’n manteisio ar y brechlyn.
Mae’n bosibl bod gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol mewn risg o ddatblygu deilliannau iechyd meddwl negyddol oherwydd effaith darparu gofal i gleifion sy’n ddifrifol sâl â COVDI-19.
Mae WCEC wedi crynhoi tystiolaeth o astudiaethau sy’n adrodd ar iechyd meddwl y gweithwyr hyn i helpu i ddarparu sail ar gyfer penderfyniadau yn y dyfodol ynglŷn â’r gefnogaeth iechyd meddwl sydd ar gael i weithwyr allweddol.
Bu’r Ganolfan yn adolygu ymchwil i effeithiolrwydd gorchuddion wyneb wrth leihau lledaeniad y feirws ac i ba mor effeithiol yw gwahanol fathau o orchuddion wyneb pan ddefnyddir nhw yn y gymuned.
Defnyddiwyd y dystiolaeth hon ym mis Gorffennaf 2021 i ddarparu sail ar gyfer symud Cymru i lefel rhybudd 0, ac i gefnogi parhau i wisgo masgiau wyneb, yn ogystal â hylendid dwylo, cadw pellter cymdeithasol ac awyru, fel rhan allweddol o amddiffyn Cymru rhag y feirws.
Roedd effaith y pandemig yn ddifrifol ar addysg gofal iechyd ar gyfer myfyrwyr meddygol, myfyrwyr nyrsio, myfyrwyr deintyddol a myfyrwyr gofal perthynol i iechyd a gosodwyd y dasg i WCEC ymchwilio i effeithiolrwydd dulliau addysg amgen a oedd yn cael eu defnyddio, fel dysgu o bell.
Mae’r rôl y mae plant a lleoliadau addysgol yn ei chwarae mewn lledaenu COVID-19 wedi bod yn bryder parhaus trwy gydol y pandemig ac, o ganlyniad, cyflwynwyd amrywiaeth o fesurau diogelwch yn fyd-eang.
Nod yr adolygiad hwn oedd nodi pa mor effeithiol yw’r mesurau hyn a darparu sail ar gyfer trafodaethau ynglŷn â’u cadw ar waith yng Nghymru ai peidio.
Yn ystod y pandemig, nid oedd endosgopi ar gael i lawer o gleifion. Gweithdrefn yw hon sy’n edrych ar y stumog neu’r perfedd gan ddefnyddio tiwb hyblyg tenau gyda chamera a golau ar un pen.
Mae’r adroddiad hwn o WCEC yn dwyn sylw at ffyrdd newydd i sicrhau bod endosgopi, a ffyrdd o fynd i’r afael â’r ôl-groniad o gleifion sy’n aros am y prawf hwn, fel cleifion yr amheuir bod ganddyn nhw ganser, ar gael yn fwy prydlon iddyn nhw.
Mae’r pandemig COVID-19 wedi achosi amhariad sylweddol ar addysg pobl 16 i 19 oed sydd mewn amser hollbwysig yn eu bywydau wrth iddyn nhw bontio i astudiaeth bellach neu gyflogaeth.
Gan edrych ar bobl ifanc sydd nawr â bylchau sylweddol yn eu haddysg oherwydd y pandemig, bu WCEC yn adolygu tystiolaeth ymchwil ynglŷn â strategaethau i gefnogi dysgu a llesiant i’r grŵp hwn.
Gallwch chi weld newyddion diweddaraf WCEC ar Twitter a beth am ddod i symposiwm cyntaf rhoi tystiolaeth ar waith Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru?