Symposiwm Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru: effaith anghyfartal, adferiad tecach
Yn y digwyddiad hwn, bydd tîm Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru yn rhannu darganfyddiadau eu hadolygiadau o dystiolaeth ynglŷn ag effaith y pandemig ar fenywod a merched, cymunedau LHDTC+, pobl anabl, carcharorion a’r boblogaeth ddigartref. Bydd y tîm hefyd yn gwneud cyflwyniadau ar dystiolaeth ymchwil ynglŷn â hiliaeth yn y GIG.
Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys trafodaethau ynglŷn â phynciau adolygiadau o dystiolaeth yn y dyfodol y mae cymunedau yng Nghymru sydd heb eu gwasanaethu’n ddigonol wedi nodi sydd yn bwysig iddyn nhw.
Rhaglen
09:30 - Croeso Yr Athro Adrian Edwards, Cyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru
09:40 - Anerchiad agoriadol, Syr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, Llywodraeth Cymru
09:50 - Effaith y pandemig COVID-19 ar iechyd pobl anabl ac ar eu gallu i gael gafael mewn gofal iechyd, Uned Arbenigol ar gyfer Tystiolaeth Ymchwil.
10:00 – Pa ddatblygiadau arloesol sy’n gallu mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau sy’n dod i ran menywod a merched oherwydd y pandemig COVID-19, Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor, a Dr Llinos Spencer, Economeg Iechyd a Gofal Cymru
10:10- Effaith y pandemig COVID-19 a’r cyfyngiadau ar gymunedau LHDTC+ yn y DU a pha gamau gweithredu allai helpu i fynd i’r afael â hyn? Uned Arbenigol ar gyfer Tystiolaeth Ymchwil
10:20 - Cwestiynau a thrafodaeth
10:45 - Egwyl
11:00 – Effaith y pandemig COVID-19 ar bobl ddigartref.
11:10 - Effaith y pandemig COVID-19 ar boblogaethau carchardai.
11:20 – Effaith y pandemig COVID-19 ar hiliaeth yn y GIG ac ymyriadau gwrth-hiliol.
11:30 - Cwestiynau a thrafodaeth
11:50 – Ymgysylltu â chymunedau yng Nghymru: nodi blaenoriaethau ymchwil ar gyfer Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru. Dr Natalie Joseph-Williams ac aelodau o Grŵp Partneriaeth Cyhoeddus Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru
12:00 - Gloi, Ed Wilson Dirprwy Gyfarwyddwr Gwella Iechyd y Cyhoedd, Atal a Hyrwyddo, Llywodraeth Cymru.
12:15 – Diolch a chau Yr Athro Adrian Edwards, Cyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru
Rhydd am ddim