Rhowch le amlwg i’ch ymchwil sy’n newid bywydau yng Ngwobrau Arloesi 2021
21 Medi
Gallwch chi roi cynnig ar ennill y Wobr Partneriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol â’r Diwydiant yng Ngwobrau Arloesi MediWales 2021. Mae’n falch gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru bod yn bartner ar gyfer y wobr hon, ac rydyn ni eisiau dwyn sylw at eich gwaith hynod.
Dyma’ch cyfle i weiddi am brosiect, lle rydych chi wedi partneru neu gydweithio â’r diwydiant, ac sydd wedi gwneud gwahaniaeth i iechyd, llesiant a ffyniant pobl yng Nghymru.
Ochr yn ochr â’r wobr hon, bydd y digwyddiad yn cynnwys nifer o wobrau ar draws dau gategori, sef y diwydiant a’r GIG, gan gynnig platfform i nodi cyflawniadau rhagorol ledled Cymru, yn cynnwys:
Gwobrau’r Diwydiant
- Arloesi
- Busnes newydd
- Partneriaeth â’r GIG
- Allforio
- Cyflawniad eithriadol
- Ymateb i Covid
Gwobrau’r GIG
- GIG Cymru’n Cydweithio â’r Diwydiant
- Effaith Ddigidol
- Rhoi Arloesedd a Thrawsnewid ar Waith ar Raddfa Fwy
- Gwobr Partneriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol â’r Diwydiant
Meddai’r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “I gydnabod yr ymchwil ragorol sy’n mynd rhagddi bob dydd i wella bywydau cleifion a’r cyhoedd yng Nghymru, mae’n bleser gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru fod yn bartner gwobr ar gyfer y Wobr Partneriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol â’r Diwydiant yng Ngwobrau Arloesi MediWales 2021.
“Rydyn ni’n annog pawb yn y GIG sy’n cymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol i roi cynnig ar y wobr, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at dderbyn llawer o geisiadau rhagorol.”
Mae enillwyr blaenorol y Wobr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol â’r Diwydiant yn cynnwys tîm astudiaeth FAKTION am eu gwaith ym maes triniaeth canser y fron, a thîm treial Brechlyn COVID-19 Rhydychen/AstraZeneca a oedd yn fuddugol yn 2020.
Meddai’r Athro Sue Bale OBE, a oedd yn rhan o’r tîm buddugol y llynedd: “Roedd y tîm wrth eu boddau’n derbyn Gwobr Partneriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru â’r Diwydiant yn 2020. Bu pawb yn y tîm yn gweithio’n ddiflino ar astudiaeth brechlyn Rhydychen/AstraZeneca ac roedd hi’n rhyfeddol eu gweld nhw’n cael eu cydnabod yn y gwobrau. O’r cychwyn cyntaf, rydyn ni wedi gwybod mai brechlyn ydy’r unig ffordd debygol allan o’r pandemig yma, felly roedd hi’n gyffrous iawn, yn ogystal ag yn heriol, rhedeg treial y brechlyn cyntaf yng Nghymru.
“Fe hoffwn i annog pawb sy’n cymryd rhan mewn ymchwil i ymgeisio am y wobr yma, i weiddi am eich gwaith sy’n newid bywydau.”
I roi cynnig ar y Wobr Partneriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol â’r Diwydiant, anfonwch eich ffurflen gais wedi’i llenwi at Polly Carr. Fe allwch chi gysylltu â Polly hefyd i gael gwybodaeth am sut i wneud cais am unrhyw rai o’r gwobrau eraill. 15 Hydref 2021 ydy’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.