
Mis Ymwybyddiaeth Strôc 2025: Astudiaeth Cymru i wella gofal ac ymwybyddiaeth ar ôl strôc
30 Ebrill
I nodi Mis Ymwybyddiaeth Strôc ym mis Mai, rydym yn clywed gan ddyn o Sir y Fflint, y newidiodd ei fywyd yn ddramatig ar ôl iddo ddioddef strôc, yn helpu i lunio prosiect ymchwil gyda'r nod o wella gofal ôl-strôc ac atal.
Roedd Peter Hooper, 64, wedi bod yn weithgar ac yn ffit nes iddo ddioddef y strôc ar fore Sul ym mis Mehefin 2020 gartref yn Swydd Gaer. Dywedodd Peter: "Roedd y strôc wedi dod mas o nunlle, gan fy mod yn rhedeg, nofio a beicio'n rheolaidd.
"Roeddwn i'n hynod lwcus bod fy ngwraig wedi sylweddoli'n gyflym fy mod i'n cael strôc. Cefais fy nhywys yn syth i brif ganolfan strôc a chefais thrombectomi, lle gwnaethant dynnu clot gwaed o'm gwythïen o fewn ychydig oriau i'r strôc. Ro'n i nôl ar fy nhraed ac yn cerdded allan o'r ysbyty'r diwrnod canlynol."
Daeth Peter yn gyfrannwr cyhoeddus i helpu i wella gofal strôc mewn astudiaeth dan arweiniad Dr Jonathan Hewitt, aelod o'r Rhwydwaith Ymchwil Cardiofasgwlaidd Cenedlaethol, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Nod yr astudiaeth yw datblygu cynlluniau triniaeth, er mwyn sicrhau bod goroeswyr strôc ar y driniaeth gywir, ar y dos cywir i helpu i atal strôc bellach a gwella gofal.
Ar ôl ei strôc, sylweddolodd Peter yn fuan bod nifer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn ymchwil strôc drwy'r Gymdeithas Strôc ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Ers hynny, mae Peter wedi cymryd rhan weithredol mewn astudiaethau sy'n canolbwyntio ar atal strôc, gofal acíwt, adsefydlu ac iechyd meddwl.
Dywedodd: "Gyda fy nghefndir mewn gwaith a'm profiad o strôc, rwy'n teimlo bod gen i rywbeth defnyddiol i gyfrannu at astudiaethau. Fe wnes i gymryd rhan mewn ychydig o brosiectau ymchwil strôc fel aelod cyhoeddus neu glaf o grwpiau cynghori, gan gefnogi'r ymchwilwyr."
Cofrestrwch i'n cylchlythyr wythnosol a chadwch i fyny â'r newyddion ymchwil diweddaraf, a gwybodaeth ddefnyddiol arall.