Jonathan Hewitt

Jonathan Hewitt

Arweinydd Arbenigol ar Strôc

Mae Dr Jonathan Hewitt yn Uwch-ddarlithydd Clinigol ym maes Meddygaeth Strôc a’r Henoed ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae’n Feddyg Ymgynghorol er Anrhydedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Ar hyn o bryd, ef yw’r Arweinydd Arbenigol ar Strôc yng Nghymru a Chyfarwyddwr y Cwrs MSc ym maes Iechyd yr Henoed a Chlefydau.

Cwblhaodd ei radd MSc a’i Ddoethuriaeth mewn Epidemioleg yn Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain.

Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys canlyniadau a deimlir gan gleifion ar ôl strôc a chlefydau llawfeddygol ymhlith pobl hŷn.

Ef yw Cadeirydd y Rhaglen Gydweithredol ar Ganlyniadau Llawfeddygol i Bobl Hŷn ac mae’n gyn-Gadeirydd ar Gangen Cymru o Gymdeithas Henoed Prydain.


Yn y newyddion:

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn arweinwyr ledled Cymru i lywio ymchwil y dyfodol (Ebrill 2022)

Galw am i gartrefi gofal Cymru fod yn rhan o dreial COVID-19 newydd (Ionawr 2021)

Cysylltwch â Jonathan

E-bost

Twitter