Jeremy Miles MS speaking at the Evidence Centre event

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i dynnu sylw at bwysigrwydd ymchwil a thystiolaeth wrth ysgogi gwelliannau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

18 Mawrth

Heddiw (dydd Mercher 19 Mawrth), bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles AS, yn agor digwyddiad a fydd yn dathlu ymchwil o ansawdd uchel sy’n ysgogi gwelliannau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol er budd Cymru iachach.

Bydd Symposiwm Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, y bydd arbenigwyr ymchwil, gwneuthurwyr penderfyniadau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a’r cyhoedd yn ei fynychu, yn dangos tystiolaeth ymchwil sy’n mynd i’r afael â materion allweddol sy’n wynebu Cymru, gan gynnwys rhestrau aros, deintyddiaeth y GIG  a gorbwysau a gordewdra ymhlith plant

Cafodd Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ei lansio yn 2023 i ddarparu tystiolaeth hanfodol i Weinidogion a gwneuthurwyr polisi, er mwyn helpu i sicrhau bod polisïau a gwasanaethau yng Nghymru yn defnyddio canfyddiadau’r ymchwil drwyadl ddiweddaraf. 

Dywedodd Jeremy Miles AS: “Mae ymchwil o ansawdd uchel yn hanfodol i ddeall pa driniaethau a gofal sydd fwyaf effeithiol i gleifion, y cyhoedd a staff. 

“Mae Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn ein helpu i ddarparu’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gorau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gleifion a chymunedau. 

Mae’n wych gweld y ganolfan yn mynd o nerth i nerth a bod adnodd mor allweddol ar gael i ni yng Nghymru.”

Bydd iechyd menywod – un o flaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru – yn cael ei drafod yn y Symposiwm hefyd, gyda Dr Helen Munro, aelod o Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac Arweinydd Clinigol y Rhwydwaith Clinigol Strategol ar gyfer Iechyd Menywod, yn siarad am lenwi bylchau ymchwil a datblygu llwybrau newydd drwy Gynllun Iechyd Menywod Cymru. 

Ychwanegodd Dr Munro: “Mae ymchwil i iechyd menywod yn fwy hanfodol nag erioed – mae angen i ni ddeall sut mae rhyw a rhywedd yn cael effaith wahanol ar glefydau a salwch gwahanol.

“Rwy’n falch o gael siarad yn y digwyddiad hwn i rannu sut allwn ni ddod ynghyd i helpu i ysgogi cynnydd ystyrlon, llunio gwasanaethau a gwella profiadau a chanlyniadau.” 

Ychwanegodd yr Athro Adrian Edwards, Cyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddod â rhanddeiliaid o bob rhan o Gymru ynghyd i dynnu sylw at waith hanfodol y Ganolfan Dystiolaeth, i rwydweithio ac i rannu arferion gorau. 

“Yn y Ganolfan Dystiolaeth, rydym yn falch o ddarparu tystiolaeth hanfodol i helpu’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau i ddatblygu polisïau ac arferion a all wella iechyd pobl yng Nghymru.”

Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru drwy fynd i’w gwefan neu drwy gofrestru ar gyfer cylchlythyr wythnosol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.