Sut all cydweithredu ar draws gwahanol sectorau ysgogi buddsoddiad mewn ymchwil a dod â mwy o fuddiannau i gleifion?
21 Hydref
Un o’r gwersi amlycaf a ddysgwyd yn sgil COVID-19 oedd bod angen i ni gydweithredu i arloesi a chydweithio i gyflawni.
Mae meithrin diwylliant o gydweithredu ar draws sectorau yn dod â llawer o fuddiannau hanfodol gan gynnwys dysgu ar y cyd, arbenigedd cyfunol, yn ogystal â meithrin capasiti a gallu ym maes ymchwil. Gall ffurfio cydberthnasau cryf arwain at allbynnau ymchwil sydd, yn y pen draw, yn cyflymu buddiannau i’r cyhoedd. Ond mae datblygu partneriaethau ar bapur yn gydweithrediadau sy’n cyflawni canlyniadau gwirioneddol yn her a wynebir gan lawer o sefydliadau.
Yn nawfed gynhadledd flynyddol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ym mis Hydref, clywsom gan banel o uwch-arweinwyr o’r GIG, y byd academaidd, llywodraeth leol a diwydiant ar y rôl maent yn ei chwarae wrth feithrin cydweithrediadau ystyrlon er mwyn helpu i fynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf rydym yn eu hwynebu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Ymddiriedaeth yw’r glud
Dywedodd Dr Leighton Phillips, Cyfarwyddwr Ymchwil, Arloesedd a Gwerth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fod nodi diben clir a chyffredin yn hanfodol er mwyn gweithio’n effeithiol mewn partneriaeth. “Bydd gan bawb agenda ychydig yn wahanol wrth fynd ati i gydweithredu ac mae angen canfod cydbwysedd rhwng adnoddau, gwobrau a risg,” meddai.
Mae diddordebau ymchwil Leighton yn cynnwys y penderfynyddion bioseicogymdeithasol sy’n gysylltiedig â gwneud penderfyniadau mewn systemau cymhleth, ac mae wedi arwain rhaglen sylweddol i feithrin gwell dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n dylanwadu ar y dechnoleg a fabwysiedir mewn systemau gofal iechyd, gan gynnwys gweithio gyda chwmnïau biofferyllol a thechnoleg feddygol blaenllaw.
“Caiff sefydliadau eu llywodraethu’n drwm am reswm da iawn felly, yn aml, mae angen i ni oresgyn cyfyngiadau yn ein sefydliadau ein hunain ac mae hynny’n cymryd amser. Ymddiriedaeth yw’r glud sy’n dal cydweithrediadau gyda’i gilydd … ni fydd contractau ond yn mynd â chi hyd at ryw bwynt, ond gall cydberthnasau da sicrhau eich bod chi nôl eto ar y trywydd iawn,” ychwanegodd.
Cyfuno sgiliau a thystiolaeth
Llwyddodd Cyngor Rhondda Cynon Taf i ddod yn Gydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd ar ôl sicrhau £5m o gyllid gan NIHR yn 2023. Mae’r cydweithrediad, a arweinir ar y cyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, yn dwyn ynghyd bartneriaid o Brifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, Interlink RCT ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Caiff pob Cydweithrediad ei gynnal gan awdurdod lleol sy’n gweithio gyda phrifysgolion neu sefydliadau sy’n arbenigo mewn penderfynyddion ehangach iechyd. Mae hyn yn dwyn ynghyd wybodaeth llywodraeth leol a sgiliau ymchwil o’r gymuned academaidd. Y nod yw gwella’r sylfaen dystiolaeth a ddefnyddir i wneud penderfyniadau polisi sy’n effeithio ar iechyd ac anghydraddoldebau iechyd.
Dywedodd Louise Davies, Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned yng Nghyngor RCT sy’n arwain ar y prosiect ac a siaradodd ar y panel, “Mae’r cyllid hwn yn ymwneud â chreu’r diwylliant i alluogi ymchwil i ddigwydd. Yn gyffredinol, dydy awdurdodau lleol ddim yn cael eu hadnabod am fod yn rhagweithiol o ran ymchwil ond mae gennym werth gwirioneddol i’w ychwanegu, yn ogystal â chyfleoedd i academyddion ddeall system wahanol a chymunedau lleol.”
Manteisio ar ein maint bach
Cytunodd y panelwyr mai’r ‘elfen ddynol’ yw conglfaen unrhyw gydweithredu, ac y gallai Cymru ddefnyddio’r fantais sydd ganddi fel gwlad fach i feithrin cysylltiadau mwy ystyrlon i ysgogi newid. “Cydweithredu yw’r hyn a’m denodd i Gymru,” meddai’r Athro William Gray, Cyfarwyddwr yr Uned Atgyweirio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol (BRAIN), a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Ac ychwanegodd Rachel Savery, Pennaeth rhaglen Therapïau Uwch Cymru, “mae gennych rwydd hynt i fod yn rhan o newid a chydberthnasau yw’r peth allweddol. Rhan bwysig o’m rôl yw helpu i hwyluso cysylltiadau a chydweithrediadau yn ogystal â helpu i ddal pethau ynghyd!”