BRAIN logo

Uned Atgyweirio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol (BRAIN)

Sefydliad ymchwil yw’r Uned Cyweirio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol (BRAIN) sy’n gweithio i ddatblygu therapïau newydd ar gyfer clefydau’r ymennydd. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar gyflyrau niwrolegol a niwroddirywiol fel clefyd Huntington, epilepsi, clefyd Parkinson a  sglerosis ymledol. Bydd yr Uned BRAIN yn dwyn ynghyd arbenigwyr mewn amrywiaeth o feysydd o Brifysgolion Caerdydd, Abertawe a Bangor, ynghyd â chydweithwyr yn GIG Cymru a diwydiant. Credwn trwy arloesi a chydweithio, gall ein hymchwil arwain at therapïau mwy effeithiol a gwneud bywyd yn well i’r rheiny mae’r cyflyrau hyn yn effeithio arnynt.