Dyfodol Logo Cyflawni Ymchwil Glinigol y DU

Cleifion i fanteisio ar ddiagnosis cyflymach a mynediad at driniaethau sydd ar flaen y gad yn dilyn hwb i ymchwil clinigol

30 Mehefin

Bydd cleifion ledled y DU yn elwa o system ymchwil clinigol fywiog, gyda chefnogaeth buddsoddiad pwrpasol o £175 miliwn, a fydd yn achub bywydau ledled y wlad.

Bydd y cynllun DU gyfan a gyhoeddir heddiw (dydd Iau 30 Mehefin) yn galluogi i ymchwil arloesol gael ei wneud yn gyflymach, gan helpu cleifion i gael mynediad at driniaethau blaengar yn gynt, cyflymu diagnosis a helpu i chwalu’r ôl-groniadau COVID. Bydd yn:

  • Cynyddu maint yr ymchwil a maint y gweithlu gan roi’r DU wrth galon astudiaethau clinigol blaengar a byd-eang.
  • Gwella ansawdd ymchwil drwy ehangu cyfrifoldeb ac atebolrwydd am astudiaethau ar draws y GIG.
  • Sicrhau bod astudiaethau’n mynd i’r afael â’r anghenion a’r heriau sy’n wynebu’r GIG, gan gynnwys gwella cynhwysiant a hygyrchedd.
  • Manteisio ar gyfleoedd y tu allan i’r UE i leihau rheoliadau, sy’n caniatáu ymchwil diogel, cyflym a hyblyg.
  • Gwella cyfranogiad mewn ymchwil ar draws y DU trwy fuddsoddi mewn treialon digidol.

Bydd hyn yn cadarnhau ymhellach safle'r DU fel arweinydd byd ym maes gwyddorau bywyd a chyflenwi ymchwil clinigol, ac mae'n dilyn datblygiad llwyddiannus y wlad o frechiadau COVID a'r broses o gyflwyno’r brechiadau hyn.

Mae'r cynllun - sy'n nodi ail gam y gwaith trwy 2022-2025 i gyflawni'r weledigaeth ar gyfer Dyfodol Cyflenwi Ymchwil Clinigol y DU - yn cynnwys £150 miliwn o gyllid ychwanegol gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) a £25 miliwn o gyllid ychwanegol gan bartneriaid cyflenwi eraill yn Rhaglen Adfer, Gwydnwch a Thwf Ymchwil Clinigol y DU.

Bydd yr ail gam yn adeiladu ar waith a wnaed eisoes, gan gynnwys haneru'r amseroedd cymeradwyo ar gyfer treialon clinigol newydd.

Mae'r buddsoddiad o £175 miliwn ar ben y swm o hyd at £200 miliwn  o gyllid a gyhoeddwyd yn gynharach eleni i gryfhau'r seilwaith data yn y gweinyddiaethau datganoledig er mwyn galluogi gwell ymchwil a chadarnhau statws y DU fel archbwer gwyddorau bywyd byd-eang. 

Mae’r buddsoddiad parhaus yn golygu y gall treialon clinigol ddigwydd yn gyflymach gyda gweithlu cryfach a gwell technoleg, gan helpu cleifion i gymryd rhan yn rhithwir, sydd eisoes o fudd i’r DU gyfan, gydag enghreifftiau yn cynnwys darparu triniaethau gwrthfeirysol i amddiffyn pobl agored i niwed rhag COVID.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Sajid Javid:

“Rydym yn hybu ymchwil clinigol i wella gofal iechyd i gleifion ar draws y DU, trwy ddarparu’r offer sydd ei angen ar ein harbenigwyr sy’n arwain y byd i gyflawni datblygiadau gwyddonol blaengar, tyfu’r gweithlu a harneisio arloesiadau digidol.

“Fel archbwer gwyddorau bywyd byd-eang, rydym wedi arwain y byd ar frechlynnau a thriniaethau gwrthfeirysol, a bydd cynllun heddiw yn sicrhau ein bod yn parhau i fod ar flaen y gad o ran ymchwil clinigol i achub bywydau a chwalu’r ôl-groniad o COVID."

Dywedodd yr Arglwydd Kamall, y Gweinidog Technoleg, Arloesi a Gwyddorau Bywyd:

“Profodd ein gwyddonwyr a chlinigwyr mwyaf blaenllaw y byd dro ar ôl tro yn ystod y pandemig Covid eu bod ar flaen y gad o ran arloesi a datblygiad gwyddonol.

“Byddwn yn parhau i'w cefnogi trwy ddarparu'r cyllid, y seilwaith a'r gweithlu sydd eu hangen ar gyfer ymchwil clinigol o'r radd flaenaf, sydd yn y pen draw yn achub bywydau.

“Trwy gydweithio gallwn ddiogelu’r GIG, torri’r ôl-groniad a sicrhau bod cleifion yn elwa ar ymchwil clinigol gyflym a diogel.”

Mae camau sylweddol i hybu ymchwil eisoes yn cynnwys:

  • Haneru'r amseroedd cymeradwyo ar gyfer treialon clinigol newydd, gan eu galluogi i ddechrau yn gyflymach, ac i ymchwil newydd arloesol gael ei ddarganfod yn gynt.
  • Lansio cynllun achredu proffesiynol newydd ar gyfer y DU gyfan ar gyfer Ymarferwyr Ymchwil Clinigol i helpu i ddyblu maint y gweithlu pwysig hwn a galluogi i fwy o ymchwil ddigwydd.
  • Buddsoddiad o £200 miliwn mewn seilwaith data iechyd yn Lloegr i gryfhau'r seilwaith data yn y gweinyddiaethau datganoledig er mwyn galluogi ymchwil gwell.
  • Gwella gallu'r DU i harneisio technoleg a chynnal astudiaethau yn rhithwir ac yn y gymuned, megis y treial PANORAMIC o driniaethau gwrthfeirysol ar gyfer COVID-19 a threial rhithwir RELIEVE IBS-D a gynlluniwyd i helpu pobl ag IBS-D i reoli eu symptomau a gwella ansawdd eu bywyd.

Dywedodd yr Athro Lucy Chappell, Prif Weithredwr yr NIHR:

“Rwy'n falch iawn o gael gweithio gyda phartneriaeth draws-sector mor gryf ac eang i drawsnewid dyfodol cyflwyno ymchwil.

“Rwy’n gwybod ein bod ni i gyd eisiau sicrhau newid gwirioneddol i gleifion ac ymchwilwyr, ac mae’r cynlluniau hyn yn nodi ein hymrwymiad ar y cyd i gryfhau ein hymgyrch am ymchwil effeithlon, arloesol sy’n canolbwyntio ar y claf ac sy’n bodloni heriau iechyd a gofal y dyfodol.”

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

“Roedd strategaeth ymchwil clinigol y DU a gyhoeddwyd y llynedd yn gatalydd pwysig ar gyfer ffordd newydd o weithio i yrru’r agenda ymchwil ledled y DU wrth i ni ddod allan o’r pandemig.

“Mae Cymru’n falch o fod yn bartner allweddol o ran meithrin gwydnwch cynyddol yn y sector ymchwil, gwreiddio ymchwil yn y GIG a sbarduno arloesedd a fydd yn gwella gofal, llesiant a thriniaethau yma yng Nghymru a thu hwnt.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r gwledydd datganoledig eraill a chydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i fwrw ymlaen â’r cynlluniau uchelgeisiol hyn a fydd yn cefnogi’r agenda gwyddorau bywyd, yn ogystal â mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a gwella iechyd pobl ledled y DU.”

Dywedodd Robin Swann, y Gweinidog dros Iechyd, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon

“Bydd yr argymhellion yn y cynllun hwn yn adeiladu ar ac yn cryfhau’r cyfraniad pwysig y mae Gogledd Iwerddon eisoes wedi’i wneud i ymchwil lleol, y DU a byd-eang.

“Byddant yn tynnu ar arweinyddiaeth leol ac ymrwymiad ein staff iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau bod cleifion yn cael cynnig cyfranogi mewn treialon ac yn cael eu cefnogi drwyddynt, a pharodrwydd y cyhoedd i fod yn rhan o’r astudiaethau hyn ac yn bartneriaid ynddynt. Dylai ymchwil fod yn rhan annatod o ymarfer ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae adferiad, gwytnwch a thwf yr ymchwil hwn yn hanfodol i wella iechyd a llesiant pobl Gogledd Iwerddon. Mae'r cynllun newydd hwn yn rhoi'r sylfeini i ni gyflawni hyn.”

Dywedodd Humza Yousaf, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Llywodraeth yr Alban:

“Nododd strategaeth ymchwil clinigol y DU, a gyhoeddwyd y llynedd, weledigaeth uchelgeisiol i wireddu gwir botensial ymchwil clinigol. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweithio gyda’n partneriaid ar draws y gymuned ymchwil, ar draws gwledydd ac ar draws sectorau i ddatblygu ein nod cyffredin o system ymchwil fwy arloesol a gwydn gydag ymchwil clinigol wedi’i wreiddio yn y GIG.

“Mae hyn yn hanfodol i adferiad y GIG, ac mae cynllun cam 2 a gyhoeddwyd heddiw yn nodi meysydd ffocws allweddol ar gyfer y tair blynedd nesaf. Mae’r Alban yn falch o fod yn rhan o’r gwaith hwn – trwy adeiladu ar ein cryfderau ymchwil cyfunol ar draws y DU, gallwn wireddu’r weledigaeth, helpu i lunio dyfodol gofal iechyd a gwella bywydau pobl am flynyddoedd i ddod.”