menyw yn derbyn gwobr mewn cynhadledd

Enwebiadau ar agor ar gyfer gwobrau ymchwil nodedig Cymru

7 Gorffennaf

*Mae'r gwobrau yma bellach ar gau*

Mae enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2022, a fydd yn dathlu llwyddiannau’r gymuned ymchwil yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf. 

Ar ôl llwyddiant y gwobrau cyntaf yn 2021, mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn falch o gadarnhau bod y tri chategori canlynol yn dychwelyd: 

  • Gwobr Effaith 

  • Gwobr Seren Ymchwil y Dyfodol 

  • Gwobr Cynnwys y Cyhoedd 

Dathlwyd enillwyr gwobrau 2021 am eu gwaith sy’n newid bywydau ar wneud penderfyniadau ynghylch defnyddio gwrthfiotigau, lleihau gwaedlif ôl-enedigaeth a gwneud gwasanaethau dementia yn haws eu defnyddio ac yn fwy cynhwysol. 

A fyddwn yn dathlu eich ymchwil chi yn 2022? 

  • Gwobr Effaith – a allwch chi ddangos sut mae eich ymchwil iechyd neu ofal cymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl? 

  • Gwobr Seren Ymchwil y Dyfodol - a ydych chi yng nghyfnod cynnar eich gyrfa ymchwil iechyd neu ofal cymdeithasol? A ydych chi’n gwneud cyfraniadau sylweddol at eich maes? A ydych chi’n datblygu fel arweinydd sy’n dod i’r amlwg ar gyfer y dyfodol? 

  • Gwobr Cynnwys y Cyhoedd – a ydych chi wedi cynnwys aeloau o’r cyhoedd yn eich ymchwil iechyd neu ofal cymdeithasol mewn ffordd ystyrlon ac arloesol? A allwch chi fesur hyn yn ôl Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd? 

Bydd panel o feirniaid yn dewis enillydd pob categori a bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi yng nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar 13 Hydref yng Ngerddi Sophia, Caerdydd. 

Dyfernir cyllid o hyd at £250 i enillydd pob categori i fynychu cwrs hyfforddi, cynhadledd, gweithdy neu ddigwyddiad tebyg er mwyn datblygu un o feysydd ei set sgiliau ymchwil. 

Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: 

Mae wedi bod yn 12 mis prysur arall i’r gymuned ymchwil yng Nghymru ac mae’r gwobrau hyn yn garreg filltir bwysig er mwyn cydnabod sut mae eich ymdrechion ymchwil yn helpu i newid ac achub bywydau. 

Ble fydden ni heb ymchwil? yw’r thema y byddwn yn ei harchwilio drwy gydol rhaglen y gynhadledd, a gobeithio y bydd ceisiadau ar gyfer y gwobrau yn adlewyrchu’r cwestiwn diddorol hwnnw. 

Ar ôl cynnal digwyddiad cwbl ddigidol am y ddwy flynedd ddiwethaf, edrychaf ymlaen at eich croesawu chi yn ôl i Erddi Sophia ac at rannu eich cyflawniadau â chi’n bersonol.” 

I gynnig am y gwobrau 

Darllenwch ddogfen ganllaw Gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2022 am fanylion llawn am gymhwysedd a meini prawf ar gyfer pob categori gwobrwyo. 

Llenwch a chyflwynwch y ffurflen gais berthnasol isod a rhowch unrhyw gyfryngau ategol fel y nodir yn y ddogfen ganllaw. 

Ffurflen gais Gwobr Effaith 

Ffurflen gais Gwobr Seren Ymchwil y Dyfodol 

Ffurflen gais Gwobr Cynnwys y Cyhoedd 

Dyddiad cau: 17:00 ar 21 Medi 2022 

Rydym yn annog pawb sy’n cynnig am wobr i gofrestru ac i fynd i gynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan ein cynhadledd