Julia Hiscock, Dave Bosanquet, Ashra Khanon with award certificates

Cyfle olaf i ymgeisio am wobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2024!

22 Awst

Mae Gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn dathlu blwyddyn o ragoriaeth ymchwil ledled y wlad, gan gydnabod cyflawniadau unigolion angerddol a thimau cydweithredol sy'n ymdrechu i lywio a thrawsnewid ymchwil sy'n newid bywydau yng Nghymru.

Bydd enillydd pob categori yn derbyn bwrsariaeth o hyd at £250 i fynychu cwrs hyfforddi, cynhadledd, gweithdy neu ddigwyddiad tebyg i ddatblygu maes o'i set sgiliau ymchwil – felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno eich cais cyn y dyddiad cau sef 17:00 ar 2 Medi.

Categorïau’r Gwobrau ar gyfer 2024 yw:

  • Gwobr Effaith Iechyd a Gofal Cymdeithasol – allwch chi ddangos sut mae eich ymchwil iechyd neu ofal cymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl?
  • Gwobr Seren Ymchwil sy’n dod i’r Amlwg – ydych chi yng nghamau cynnar eich gyrfa ymchwil iechyd neu ofal cymdeithasol? Ydych chi'n cyfrannu’n sylweddol at eich maes? Ydych chi'n arweinydd newydd y dyfodol? 
  • Gwobr Cynnwys y Cyhoedd – ydych chi wedi cynnwys y cyhoedd yn eich ymchwil mewn ffordd ystyrlon ac arloesol? Ydych chi'n cyrraedd Safonau'r Deyrnas Unedig ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd?
  • Gwobr Arloesi mewn Ymarfer – allwch chi ddangos sut mae unigolion neu dimau ymchwil wedi gwneud gwahaniaeth wrth ddatblygu, cyflwyno neu ledaenu / gweithredu ymchwil?

Mae enillwyr blaenorol wedi canmol gwerth y gwobrau, gan gynnwys Dr Ashra Khanom, Uwch Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys Cymru (Canolfan PRIME Cymru), a enillodd y Wobr Effaith yn 2023.

Dywedodd Dr Khanom fod y wobr wedi helpu i godi proffil astudiaeth a arweiniwyd ganddi – HEAR 2 – a oedd yn edrych ar brofiadau iechyd ceiswyr lloches a ffoaduriaid, a pha mor dda y mae eu hanghenion dehongli yn cael eu diwallu, yn ogystal â rhoi cyfle iddi rwydweithio a gwneud cysylltiadau newydd.

Ychwanegodd:

Mae'r Wobr Effaith wedi codi proffil astudiaeth HEAR 2 yn sylweddol ac fe ddaethon ni’n ail hefyd yng Ngwobrau Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Abertawe 2024, yn y categori Effaith Eithriadol ar Iechyd a Llesiant.

“Fe ges i fy ngwahodd i gymryd rhan mewn podlediad gyda Phrifysgol Abertawe i drafod a yw'r GIG yn diwallu anghenion ceiswyr lloches a ffoaduriaid. Hefyd, derbyniwyd ein poster HEAR 2 yng Nghynhadledd Ymchwil y Gwasanaethau Iechyd yn Rhydychen, a fynychais gyda fy nghydweithwyr ym mis Gorffennaf.”

Enillodd un o enillwyr eraill y gwobrau, Mr David Bosanquet, meddyg ymgynghorol ac Uwch Ddarlithydd Anrhydeddus yn Rhwydwaith Fasgwlaidd De-ddwyrain Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, wobr Seren sy’n dod i’r Amlwg yn 2023, a’i helpodd i fynychu cynhadledd fasgwlaidd lle bu'n arddangos rhywfaint o'i waith.

Ychwanegodd:

Roeddwn i mor hapus i ennill y wobr Seren sy’n dod i’r Amlwg – roedd yn anrhydedd enfawr o ystyried ansawdd yr ymgeiswyr eraill. Roedd yn cynnig cyfle i fyfyrio ar y daith roeddwn i wedi bod arni (ac rwy’n dal i fod arni), a faint rwy'n mwynhau bod yn rhan o rwydwaith ymchwil ehangach gyda'r gobaith o wella canlyniadau cleifion.

“Mae'r Ganolfan Treialon Ymchwil, ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi darparu cymorth amhrisiadwy ar hyd y daith hon, ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i gydweithio gyda nhw.”

Cyflwynwch eich cais nawr i fod â siawns o ennill bwrsariaeth o £250.

Dysgwch am y pum prif reswm dros gystadlu yn y Gwobrau.