Pum prif reswm dros gystadlu yng Ngwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal
Mae Gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn dathlu ymchwil effeithiol ac arloesol sy'n trawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Dyma bum prif reswm pam y dylech ystyried cystadlu, fel y dywedodd rhai o'n henillwyr gwobrau ysbrydoledig o'r blynyddoedd diwethaf:
1. Cynnwys y cyhoedd yn ystyrlon
Mae cynnwys y cyhoedd yn hanfodol mewn ymchwil iechyd a gofal, gan sicrhau bod astudiaethau'n adlewyrchu gwir anghenion a phrofiadau'r gymuned. Mae’r astudiaeth LISTEN, enillydd Gwobr Cynnwys y Cyhoedd yn 2023, yn enghraifft wych.
Cyd-ddyluniodd LISTEN raglen cymorth hunanreoli ar gyfer pobl sy'n byw gyda COVID hir. Pwysleisiodd Ffion Davies, Nyrs Ymchwil yn y Ganolfan Ymchwil Treialon, bwysigrwydd safbwyntiau amrywiol. Dywedodd hi: "Mae cynnwys cefndiroedd amrywiol, a gwybodaeth gwahanol bobl a gwahanol lefelau o arbenigedd, yn helpu i lunio treial sydd, gobeithio, yn effeithiol."
2. Effaith sylweddol ar bolisi ac ymarfer
Gwerthfawrogir yn fawr iawn ymchwil sy'n dylanwadu ar bolisi ac sy'n gwella ymarfer. Derbyniodd astudiaeth HEAR 2 ein Gwobr Effaith yn 2023. Mae'r astudiaeth, dan arweiniad Dr Ashra Khanom, wedi dylanwadu ar bolisi Llywodraeth Cymru ar wasanaethau dehongli i geiswyr lloches a ffoaduriaid.
Ychwanegodd Dr Khanom: "O fewn mis i ledaenu hyn roedden ni'n ymwneud â datblygu polisi a rhoi dogfen gwmpasu at ei gilydd o amgylch argymhellion HEAR 2. Mae cylchlythyr iechyd Cymru wedi mynd allan i'r holl fyrddau iechyd yng Nghymru i ddweud bod angen i staff fod yn ymwybodol o anghenion iaith pobl a darparu cyfieithu a dehongli lle bo hynny'n bosib."
3. Atebion arloesol i broblemau go iawn
Mae arloesi wrth wraidd hyrwyddo iechyd a gofal cymdeithasol. Dangosodd y Wobr Arloesi mewn Ymarfer, a ddyfarnwyd i Astudiaeth CARiAD yn 2023, hyn trwy hyfforddi aelodau o'r teulu i roi meddyginiaeth gartref i anwyliaid sy'n marw.
Dywedodd Dr Julia Hiscock, wrth siarad ar ran y tîm sydd dan arweiniad yr Athro Clare Wilkinson, Athro Ymarfer Cyffredinol ym Mhrifysgol Bangor: "Mae'r gofalwyr rydyn ni wedi siarad â nhw, sydd wedi gwneud y dasg gyda'u hanwyliaid, yn unfrydol falch eu bod wedi cael y cyfle i wneud hyn. Mae'n astudiaeth bwysig sy'n helpu pobl ar adeg anodd o'u bywydau."
4. Cydnabyddiaeth i ymchwilwyr sy'n dod i'r amlwg
Mae'r gwobrau'n cefnogi ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa i wneud cyfraniadau sylweddol. Y llynedd, aeth y Wobr Seren Ymchwil Addawol i Mr David Bosanquet, Ymgynghorydd Fasgwlaidd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, am ei waith mewn llawfeddygaeth fasgwlaidd.
Canmolwyd yn arbennig ymroddiad Mr Bosanquet i wella canlyniadau trychiad drwy gynnwys cleifion. Dywedodd: "O ganlyniad uniongyrchol i’r hyn ddywedodd cleifion, fe wnaethon ni newid pethau fel bod pob un claf ar PLACEMENT wedi cael eu hysbysu am raglen cymorth cyfoedion i gyfoedion rhad ac am ddim y Limbless Association."
5. Annog ymdrechion cydweithredol
Mae cydweithredu ar draws disgyblaethau a gyda'r cyhoedd yn hanfodol ar gyfer ymchwil effeithiol. Amlygodd enillydd y Wobr Effaith yn 2022 lwyddiant ymateb “Cymru'n Un” Cronfa Ddata SAIL a’i bartneriaid i COVID-19.
Dywedodd Ashley Akbari, Athro Cyswllt yn y Gronfa Ddata SAIL: "Mae hyn yn gydnabyddiaeth wirioneddol o'r ymdrechion tîm ar y cyd. Mae ein prosiect yn cynnwys cydweithio amlddisgyblaethol rhwng y llywodraeth, llunwyr polisi a'r cyhoedd."
Cyflwynwch eich ceisiadau ar gyfer Gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2024 nawr i ddathlu eich llwyddiant a'ch rhagoriaeth mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.
Dyddiad cau: 17:00 ar 15fed Gorffennaf 2024
Cofrestrwch nawr i ymuno â'r gynhadledd yn bersonol neu drwy’r ffrwd byw.
Gallwch hefyd gyflwyno eich crynodebau am drafodaeth dull TED yn y gynhadledd.