Holly and her son Wyatt

Wythnos Iechyd Meddwl Mamau: Nod ymchwil i orbryder amenedigol yw gwella'r gefnogaeth i famau

9 Mai

Nod ymchwil gan Economeg Iechyd a Gofal Cymru, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yw gwella'r gefnogaeth i famau, gan gynnwys y rhai sy'n dychwelyd i'r gwaith ar ôl cael plentyn, drwy gynnal y dadansoddiad economaidd cyntaf erioed o bryder amenedigol.

Ers ei lansio, mae'r astudiaeth hefyd wedi'i ehangu i ddadansoddi effaith economaidd trawma geni, rhywbeth sy'n effeithio ar 30,000 o fenywod bob blwyddyn. 

Ei nod yw datblygu cyngor i wella gofal a chefnogaeth i fenywod yn y dyfodol.

I nodi Wythnos Iechyd Meddwl Mamau (5-11 Mai 2025), mae Holly Taylor-Peter yn rhannu ei phrofiad o frwydro i ddychwelyd i'r gwaith ar ôl genedigaeth ei mab, a'r gwahaniaeth y gallai ymchwil fel hyn ei wneud i famau.

Mae un o bob pump o fenywod yn dioddef problem iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd neu yn y flwyddyn gyntaf ar ôl rhoi genedigaeth. Gorbryder amenedigol yw un o'r cyflyrau mwyaf cyffredin, sy'n effeithio ar bron i 20% o fenywod.

Mae astudiaethau MAP a MAP ALLIANCE yn defnyddio data a ddarparwyd gan fwy na 2000 o fenywod ar eu lles meddyliol yn ystod beichiogrwydd a'r flwyddyn gyntaf ar ôl genedigaeth. Gofynnwyd i fenywod pa wasanaethau yr oeddent yn eu defnyddio i gael cymorth a pha mor aml y gwnaed hynny, er enghraifft, ymweld â'u meddyg teulu, bydwraig neu ymwelydd iechyd, a chyfrifwyd y gost gyfartalog ar gyfer pob gwasanaeth. Mae'r astudiaeth hefyd yn archwilio costau cymdeithasol ehangach, megis a oedd gorbryder wedi effeithio ar gynlluniau mamau i ddychwelyd i'r gwaith yn gyfan gwbl.

Y llynedd, derbyniodd MAP ALLIANCE rhagor o gyllid gan Raglen Cyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol NIHR, gyda chefnogaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, i gynnal y dadansoddiad economaidd cyntaf erioed o drawma geni, ar ôl i Ymchwiliad Grŵp Seneddol Hollbleidiol i Drawma Genedigaeth argymell mwy o ymchwil yn y maes hwn. Roedd yr ymchwiliad yn cynnwys cyflwyniadau gan fenywod nad oeddent yn gallu mynd yn ôl i'r gwaith oherwydd sbardunau anhwylder straen ar ôl trawma, gan awgrymu cost economaidd ehangach.

Dywedodd Kalpa Pisavadia, Swyddog Cymorth Prosiectau Ymchwil yn Economeg Iechyd a Gofal Cymru, 

Mae MAP ALLIANCE yn brosiect cyffrous iawn i fod yn rhan ohono, gyda'r dadansoddiadau hyn y cyntaf o'u math yn y DU. Mae gorbryder amenedigol a thrawma geni yn effeithio ar filoedd o fenywod ledled y DU bob blwyddyn mewn ffyrdd sy'n cael effaith ar draws cymdeithas. Trwy ddeall mwy am effaith y cyflyrau hyn, bydd MAP ALLIANCE yn gallu cyfrannu at ddatblygu cymorth mwy effeithiol i fenywod, gan sicrhau bod y gofal a gynigir yn y dyfodol yn hygyrch, yn dderbyniol ac yn gost-effeithiol i'r GIG ei ddarparu."

Gwnaeth Holly Taylor-Peter, 30 oed, o Sir Gaerfyrddin roi genedigaeth i’w mab, Wyatt, ym mis Tachwedd 2023. Ar ôl profi genedigaeth drawmatig, datblygodd Holly orbryder ac iselder amenedigol ac roedd yn ei chael yn anodd dychwelyd i'r gwaith. Nawr mae hi'n angerddol am rannu ei stori i gefnogi mamau eraill mewn sefyllfaoedd tebyg. 

Dywedodd Holly, "O fewn ychydig ddyddiau o fod adref o'r ysbyty, sylweddolodd fy mam a fy ngŵr Dan nad oedd rhywbeth yn iawn. Roeddwn i'n disgwyl teimlo'r "baby blues" ond roedd hyn yn teimlo'n hollol llethol a doeddwn i methu stopio crio."

Cafodd Holly ei chyfeirio at y tîm iechyd meddwl amenedigol ac roedd cael cefnogaeth gan famau eraill yn ddefnyddiol. "Roedd ymuno â'r grŵp Mums Matter ar-lein yn helpu, i allu siarad â mamau eraill sy'n mynd trwy bethau tebyg a deall nad oeddwn ar fy mhen fy hun o ran sut roeddwn i'n teimlo. Cefais hefyd bresgripsiwn sertraline a helpodd fi i ymdopi a theimlo'n fwy fel fy hun eto."

Ond pan ddaeth yr amser i fynd yn ôl i'r gwaith, dywedodd Holly, "daeth fy holl deimladau i'r amlwg. Roeddwn i'n teimlo mor bryderus ac ofnus wrth i'r dyddiad dychwelyd agosáu. Byddwn i'n crio i Dan nad oeddwn i eisiau mynd yn ôl. Rwy'n dwlu ar fy swydd, ond ystyriais adael yn gyfan gwbl.

"Fe wnes i drafod fy mhryderon gyda fy rheolwr a chafodd pethau eu gwneud i fy helpu, ond ar ôl tair wythnos fe wnes i gymryd mwy o amser i ffwrdd. Ym mis Chwefror roedd pethau'n well a dychwelais i uned wahanol. Roedd hwn yn newid positif iawn i mi ac roeddwn i mor falch o gael y gefnogaeth honno gan fy nhîm i barhau i allu gwneud y gwaith yr oeddwn i'n dwlu arno."

Mae Holly yn credu bod gan ymchwil fel astudiaeth MAP ALLIANCE rôl hanfodol i'w chwarae wrth annog sgyrsiau mwy agored ynghylch iechyd meddwl amenedigol.

Mae mor bwysig bod yn gwneud mwy o ymchwil yn y maes hwn ac annog mwy o bobl i siarad yn agored am eu profiadau. Mae iechyd meddwl amenedigol yn dal i fod yn bwnc tabŵ ac nid yw'n cael ei drafod ddigon, ond yn aml pan fyddwch chi'n agored am eich profiadau rydych chi'n sylweddoli nad ydych ar eich pen eich hun. Rwy'n gobeithio y bydd ymchwil fel hyn yn cael mwy o bobl i siarad fel y gallwn ni i gyd gefnogi ein gilydd."

Mae Charlotte Aitken yn Weithiwr Cymorth Mentor Cymheiriaid Amenedigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae'r gwasanaeth wedi darparu cymorth gan fentoriaid cymheiriaid ledled Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion ers 2019 yn ogystal â chyfeirio menywod i amrywiaeth o sefydliadau.  

Mae Charlotte yn gweithio gyda hyd at 15 o fenywod bob wythnos ar draws rhanbarth Sir Benfro a dywedodd, "Mae iechyd meddwl mamau mor bwysig ond mae cymaint o famau yn teimlo bod yn rhaid iddyn nhw ddelio ag ef. Rydym yn gweld rhyw fath o orbryder amenedigol yn y rhan fwyaf o ferched rydyn ni'n gweithio gyda nhw. Gall fod oherwydd ystod o ffactorau, yn enwedig o ran mynd yn ôl i'r gwaith. Mae cymaint o ffactorau: sut i gydbwyso gweithio ochr yn ochr â magu plant, costau gofal plant, poeni am sut y bydd eu plentyn yn setlo mewn gofal plant neu gael gofal gan aelod arall o'r teulu. Mae yna lawer iawn o euogrwydd y mae llawer o famau yn ei deimlo a all ychwanegu at eu gorbryder a gwneud iddo ymddangos yn llethol iawn.

Yr hyn sy'n wirioneddol bwerus am y rôl hon yw y gallwn normaleiddio llawer o'r pethau y gallai mamau fod yn eu teimlo, a'u helpu i deimlo'n llai wedi’i stigmateiddio ac ynysig. Bydd yr ymchwil yn helpu i wneud mwy o hynny - dod â channoedd o leisiau mamau at ei gilydd i ddangos nad ydych ar eich pen eich hun, yn ogystal â darparu tystiolaeth o'r gwahaniaeth y gallai cymorth iechyd meddwl mamau da ei wneud."

Mae MAP ALLIANCE yn cael ei arwain gan Dr Rose Meades a'r Athro Susan Ayers o City, Prifysgol Llundain, gyda gwerthusiad economaidd iechyd dan arweiniad yr Athro Rhiannon Tudor Edwards, cyd-gyfarwyddwr Economeg Iechyd a Gofal Cymru a'r Ganolfan Economeg Iechyd ac Economeg a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) ym Mhrifysgol Bangor. Mae mwy am astudiaeth MAP ALLIANCE yma.