HCEC logo

Economeg Iechyd a Gofal Cymru (HCEC)

Mae economeg iechyd yn astudio sut rydym yn defnyddio adnoddau prin i ddiwallu ein hanghenion iechyd a gofal cymdeithasol. Mae economegwyr iechyd yn helpu’r rheini sy’n llunio polisïau a chomisiynwyr gwasanaethau yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol i bwyso a mesur costau a manteision ymyriadau a rhaglenni iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn hyrwyddo'r syniad o ddefnyddio adnoddau'n effeithlon, drwy leihau gwastraff a blaenoriaethu gofal effeithiol a diogel sy'n darparu gwerth da am arian a mynediad teg at iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hwn yn amcan gwerthfawr o ystyried bod 18 mlynedd o wahaniaeth mewn disgwyliad oes iach rhwng ardaloedd cyfoethocaf a thlotaf Cymru.

Mae gwasanaeth Economeg Iechyd a Gofal Cymru yn rhan annatod o system ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol cyffrous ledled Cymru. Mae Economeg Iechyd a Gofal Cymru yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.