Two women sat on a sofa

Helpwch i lunio ymchwil newydd i iechyd menywod

30 Medi

Mae iechyd menywod yn flaenoriaeth uchel i Lywodraeth Cymru ac mae cyfathrebu ynghylch materion iechyd menywod yn faes allweddol:  

Trwy brosiect blaenoriaethu diweddaraf Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, byddwn yn nodi'r 'cwestiynau heb eu hateb' a'r bylchau mewn ymchwil ynghylch cyfathrebu ar bob agwedd ar iechyd menywod a merched 16 oed a hŷn. Byddwn yn gwneud hyn drwy wrando ar y rhai hynny sydd â phrofiad bywyd [o gyfathrebu am eu hiechyd gyda gweithwyr proffesiynol y GIG, a’r rheini sy'n] gofalu amdanynt.

Gan ddefnyddio eich ymatebion i'r arolwg hwn, byddwn yn chwilio am feysydd penodol y gellid eu gwella a'r cwestiynau y gall ymchwil eu hateb i'w helpu i'w gwella.

Pan fydd gennym restr o gwestiynau y gallai ymchwil helpu i'w hateb, byddwn yn lansio ail arolwg. Bydd hwn yn gofyn i fenywod, merched ac ymarferwyr y GIG bleidleisio ar ba gwestiynau sydd bwysicaf, yn eu barn nhw. Yn olaf, byddwn yn cynnal gweithdy ac yn dwyn ynghyd menywod, merched ac ymarferwyr y GIG i drafod a phenderfynu ar y 10 blaenoriaeth terfynol.

Drwy gynnal y prosiect hwn, gallwn ddarparu ffordd i gyllidwyr (gan gynnwys ni ein hunain) flaenoriaethu'r ymchwil sydd bwysicaf i chi. Gallwn hefyd ddefnyddio'r ymatebion a gasglwyd yn ystod y broses i lywio polisi ynghylch iechyd menywod.

Bydd yr arolwg yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau.

Beth ydyn ni'n ei olygu pan fyddwn ni'n dweud 'cyfathrebu ynghylch iechyd menywod'?  

Rydym yn golygu unrhyw fath o gyfathrebu (wyneb yn wyneb, e-byst, negeseuon testun, ysgrifenedig, galwadau ffôn, delweddau) gan wasanaethau'r GIG sy'n ymwneud ag unrhyw agwedd ar iechyd a wynebir gan fenywod a merched.  

Mae’n cynnwys: 

  • Cyfathrebu i helpu i ddeall materion iechyd yn gyffredinol.  
  • Rhyngweithio penodol â chleifion neu weithwyr iechyd proffesiynol y GIG ynghylch pryderon iechyd, cyflyrau iechyd penodol neu ddiagnosis a thriniaeth ac ati. 
  • Cyfathrebu ynghylch pa wasanaethau'r GIG sydd ar gael.  
  • Cyfathrebu ynghylch sut i gael mynediad at wasanaethau'r GIG a’u derbyn.
  • Cyfathrebu o fewn a rhwng gwasanaethau'r GIG (gan gynnwys cyfathrebu rhwng ymarferwyr).

Os ydych chi'n fenyw neu'n ferch (16 oed neu'n hŷn) sy'n byw yng Nghymru neu'n derbyn gofal GIG yma, neu'n weithiwr GIG proffesiynol sy'n gweithio yng Nghymru, rhannwch eich profiadau a'ch syniadau. Llenwch y naill arolwg neu'r llall neu’r ddau os yw'n berthnasol.

Cymryd rhan

Menywod a merched (dros 16 oed) Arolwg nodi blaenoriaethau ymchwil i gyfathrebu ynghylch iechyd menywod

Ymarferwyr y GIG – Arolwg nodi blaenoriaethau ymchwil i gyfathrebu ynghylch iechyd menywod

Diolch am helpu i lunio dyfodol ymchwil iechyd menywod yng Nghymru. 

Arolygon yn cau: 17:00 ddydd Gwener 25 Hydref 2024

Hoffech chi ddysgu mwy am ein harolygon blaenoriaethu blaenorol? Ewch i'n tudalennau newyddion i ddarllen am:

Am wybodaeth bellach, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.