Dyn yn gwisgo mwgwd yn darllen rhai papurau

Mae rhaglen waith gyntaf Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru’n rhoi sylw i heriau newydd y mae’r GIG a gofal cymdeithasol yn eu hwynebu

24 Medi

Mae Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru £3m Llywodraeth Cymru wedi bod yn dadansoddi 17 o wahanol flaenoriaethau ymchwil ers ei chreu chwe mis yn ôl, gan ddarparu tystiolaeth wyddonol hollbwysig i helpu gwasanaethau iechyd a gofal i fynd i’r afael â heriau newydd y mae’r pandemig wedi’u creu.

Roedd ei rhaglen waith hyd yma’n cynnwys adolygiad o ymchwil i’r effaith ar iechyd meddwl gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU; atal haint mewn ysgolion a lleoliadau addysg; niferoedd yn manteisio ar frechiad mewn oedolion o gymunedau heb eu gwasanaethu’n ddigonol; mynd i’r afael ag ôl-groniadau archwiliadau canser; ac effeithiolrwydd gorchuddion wyneb.

Mae Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru, sy’n rhan o Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn galluogi mynediad cyflym i ddarganfyddiadau ymchwil ryngwladol allweddol ac yn caniatáu ymgymryd ag astudiaethau ymchwil cyflym, â ffocws ar lefel Cymru er mwyn arwain y penderfyniadau y mae gweinidogion yn ogystal ag arweinwyr yn y GIG ac ym maes gofal cymdeithasol yn eu gwneud.

Mae’r rhaglen waith lawn, gan gynnwys adolygiadau sydd wedi’u cyhoeddi hyd yma, i’w gweld ar wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Meddai’r Athro Adrian Edwards, Cyfarwyddwr y Ganolfan: “Er mwyn nodi’r blaenoriaethau iechyd a gofal COVID-19 mwyaf cyfredol a rhai sy’n dod i’r amlwg ledled Cymru ers i’r pandemig ddechrau, mae’r ganolfan wedi mynd ar ofyn 39 o grwpiau rhanddeiliaid, gan gynnwys byrddau iechyd y GIG, seilweithiau ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, grwpiau cynnwys cleifion a’r cyhoedd, Gofal Cyhoeddus Cymru a’r Academi Colegau Brenhinol.

“Trwy drafod â Chell/ Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru, gwnaethon ni nodi blaenoriaethau a oedd eisoes yn bodoli a gofyn iddyn nhw gytuno ar ba rai o’r rhain oedd dal â’r blaenoriaeth uchaf, er mwyn llunio rhaglen waith gychwynnol Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru (WC19EC).

“Y flaenoriaeth drosfwaol ar gyfer ein hymchwil ydy ei bod yn cael ei gwneud yn gyflym ond yn drylwyr, ei bod yn cael ei chyfuno a’i bod ar gael fel bod clinigwyr, llunwyr polisi a rhanddeiliaid eraill yn gallu ei rhoi ar waith.”

Defnyddiwyd adolygiad Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru ar effeithiolrwydd gorchuddion wyneb ym mis Gorffennaf 2021 i ddarparu sail ar gyfer symud Cymru i Lefel Rhybudd 0, gan ddangos sut y mae gorchuddion wyneb, ynghyd â hylendid dwylo, cadw pellter cymdeithasol ac awyru’n dal i fod yn elfennau allweddol o’r strategaeth i reoli effaith COVID-19.

Defnyddiwyd gwybodaeth o grynodeb cyflym o dystiolaeth y Ganolfan Dystiolaeth ar ‘Y niferoedd yn manteisio ar frechiad (rhwystrau/ hwyluswyr ac ymyriadau) mewn oedolion o gymunedau heb eu gwasanaethu’n ddigonol neu anodd i’w cyrraedd’ hefyd yng nghyngor diweddar Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru ynglŷn â phasbort brechlyn.

Mae tîm craidd y Ganolfan yn gweithio’n agos â chyd-bartneriaid yn sefydliad Technoleg Iechyd Cymru, Canolfan Cymru ar gyfer Gofal sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth, yr Uned Arbenigol ar gyfer Tystiolaeth Adolygu, Banc Data SAIL, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor/ Economeg Iechyd a Gofal Cymru ac Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ychwanegodd yr Athro Edwards: “Rydyn ni’n parhau i adolygu’r cwestiynau â blaenoriaeth, yn enwedig o ran effaith ar wasanaethau allweddol fel canser, llawdriniaethau dewisol a rheoli cyflyrau tymor hir, a dulliau arloesol i fynd i’r afael â nhw. Rydyn ni’n arbennig o awyddus i ymchwilio i effeithiau anghyfartal y pandemig ar draws grwpiau yn y gymdeithas, fel y rheini sy’n wynebu anfantais economaidd, sy’n byw ag anabledd, sydd â phrofiad ymarferol o anghydraddoldeb ar sail BAME, LGBTQ+ neu rywedd, ac ymdrechion i liniaru’r anfanteision hyn.”

Nod y Ganolfan yw darparu rhyw 50 o adolygiadau y flwyddyn, gan ateb y cwestiynau â blaenoriaeth ar gyfer polisi ac arfer yng Nghymru.

Meddai’r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Mae’r Ganolfan yno i helpu’r llywodraeth a’r GIG i ddefnyddio ymchwil i arwain polisi ac arfer sy’n ymwneud â COVID-19. Y pandemig ydy’r her fwyaf i’r sector iechyd a gofal o fewn cof ac mae’r Ganolfan yn darparu’r ymchwil allweddol sy’n ein galluogi i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i’r her honno.

“Mae dod â’r pandemig i ben yn dibynnu, yn y bôn, ar ymchwil yn darparu atebion o ran gwneud diagnosis, trin ac atal ac rydw i’n ddiolchgar iawn i’r Athro Edwards a’i dîm am y gwaith hyd yma wrth roi sylw i rai o effeithiau pellgyrhaeddol COVID-19.”