#Red4Research Flyer

#CochDrosYmchwil 2023

#CochDrosYmchwil yn Ôl.

Ar y rheng flaen a thu ôl i'r llenni, mae timau ymchwil anhygoel yn parhau i weithio ar y cyd ar ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r gymuned Ymchwil a Datblygu (R&D) yn arloesol, hyblyg a deinamig. Er hynny, nid yw ymchwil yn digwydd ar  ben ei hunan, mae pobl yn gwneud iddo ddigwydd – cyfranogwyr ymchwil, cleifion, gweithwyr proffesiynol, gwirfoddolwyr a chyrff rheoleiddio i gyd yn gweithio gyda'i gilydd ar y cyd.

Nôd Diwrnod #CochDrosYmchwil yw cael cymaint o bobl â phosibl yn gwisgo coch i ddangos eu cefnogaeth a'u gwerthfawrogiad am ymchwil a phawb sy'n cymryd rhan, ei ymgymryd a'i gefnogi. Mae'n gyfle i arddangos y gwaith, dysgu etifeddiaeth a'r system/technegau ymchwil arloesol newydd sydd wedi codi o R&D.

Mae #CodchDrosYmchwil yn gwbl gynhwysol – gall unrhyw un, unrhyw oedran, unrhyw le, unrhyw le gymryd rhan – plant, oedolion, hyd yn oed anifeiliaid anwes! Mae'r cysyniad yn syml iawn. Gwisgwch unrhyw eitem o ddillad cyn belled â'i fod yn goch, lawrlwythwch/argraffwch neu gwnewch blacard yn dweudd #CochDrosYmchwil, tynnwch lun a'i bostio ar y cyfryngau cymdeithasol gyda'r hashnod #CochDrosYmchwil. Mae #CochDrosYmchwil i gyd yn ymwneud â phositifrwydd, creadigrwydd a dathlu ymchwil. Y gobaith yw y gallai pobl gael ychydig o hwyl ar hyd y ffordd a chodi proffil ymchwil.

-

Ym mhobman