Gweithdai Ymgysylltu Darganfod Eich Rôl
Ymunwch â ni am gyfres ddiddorol o weithdai ymgysylltu wrth i ni ddechrau ar gam nesaf ein taith Darganfod Eich Rôl i wella cyfranogiad y cyhoedd mewn ymchwil iechyd a gofal ledled Cymru.
Nod ein gweithdai yw ategu cam un lle gwnaethom nodi'r rhwystrau sy'n effeithio ar gyfranogiad y cyhoedd. Bydd pob gweithdy yn canolbwyntio ar dri rhwystr penodol a nodwyd.
Yr amcan yw cynnig atebion ymarferol i oresgyn y rhwystrau hyn trwy gydweithio ag aelodau'r cyhoedd ac ymchwilwyr.
Rydym yn llawn cyffro i groesawu pawb i'n gweithdai ymgysylltu ac rydym yn gwerthfawrogi eich syniadau.
Sylwch na allwn ddarparu iawndal na chostau teithio am gymryd rhan yn y gweithdai hyn.
Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i lywio dyfodol ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru
Am Ddim
11 Mehefin - Prifysgol Wrecsam, Campws Plas Coch, Wrecsam
9 Gorffennaf - Sefydliad Awen, Abertawe
17 Gorffennaf - Holiday Inn, Stryd y Castell, Caerdydd