Person ifanc sy'n dal ffôn symudol

Y cryfderau a'r heriau sy'n gysylltiedig â gwasanaethau ar-lein i gefnogi iechyd meddwl...

Y cryfderau a’r heriau sy’n gysylltiedig â gwasanaethau ac ymyriadau ar-lein i gynorthwyo iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal

Cyflwynwyr: Dr Rhiannon Evans, Lorna Stabler a Rachael Vaughan, Prifysgol Caerdydd.

Ysgogodd pandemig y Coronafeirws, gyda'i gyfnodau clo a'i gyfyngiadau cysylltiedig, symudiad o ryngweithio wyneb yn wyneb i ddulliau anghysbell o ymgysylltu a oedd yn dibynnu ar gyswllt dros y ffôn neu ar-lein. Roedd hyn yn arwain at ganlyniadau o ran math ac amlder gwasanaethau iechyd meddwl a lles neu ymyriadau a oedd ar gael i blant a phobl ifanc â phrofiad o ofal, a'u gofalwyr maeth a pherthnasau.

Mae'r weminar hon yn cyflwyno canfyddiadau astudiaeth a gynhaliwyd yn 2021 a archwiliodd farn a phrofiadau darpariaeth iechyd meddwl a lles ymhlith pobl ifanc, gofalwyr, a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yng Nghymru yn ystod pandemig y Coronafeirws. Darparwyd y gwasanaethau hyn ar-lein, dros y ffôn, neu'n achlysurol drwy gymysgedd o gyfarfodydd wyneb yn wyneb ac o bell. Arweiniwyd yr astudiaeth gan Dr Rhiannon Evans a chydweithwyr o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, mewn partneriaeth â Rhwydwaith Maethu Cymru a Voices from Care Cymru. Ariannwyd yr astudiaeth gan Rwydwaith TRIUMPH UKRI.

Roedd yr astudiaeth yn canoli profiad byw pobl ifanc, gofalwyr maeth a pherthnasau a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol. Roedd yr astudiaeth yn cynnwys ymchwilydd cymheiriaid profiadol o Grŵp Cynghori Ymchwil Lleisiau CASCADE fel rhan o'r tîm ymchwil. Yn ogystal, cyfrannodd Grwpiau Cynghori Rhwydwaith Maethu Cymru a phobl ifanc o Voices from Care Cymru at gynllun yr astudiaeth a'r argymhellion a gynhyrchwyd o'r ymchwil hwn.

This webinar will present the key themes from the research study and highlight recommendations for both policy and practice. The findings of this study aim to engender improvements in remote and face-to-face services and interventions to support the mental health and wellbeing of care-experienced children and young people as we move beyond the restrictions of the Coronavirus pandemic.

Bydd y weminar hon yn cyflwyno themâu allweddol yr astudiaeth ymchwil ac yn tynnu sylw at argymhellion ar gyfer polisi ac ymarfer. Nod canfyddiadau'r astudiaeth hon yw creu gwelliannau mewn gwasanaethau ac ymyriadau o bell ac wyneb yn wyneb i gefnogi iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal wrth i ni symud y tu hwnt i gyfyngiadau pandemig y Coronafeirws.

 

-

Online