Ydych chi'n mynd trwy’r Perimenopos neu’r Menopos ar hyn o bryd?
Beth am helpu gydag ymchwil i wella mynediad at driniaethau menopos a gofal yn y gymuned?
Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
- profiad personol o symptomau perimenopos neu menopos
- bod â ffrind neu aelod o'r teulu yr ydych chi wedi'i gefnogi gyda symptomau perimenopos neu menopos
- wedi defnyddio gwasanaeth anhwylderau cyffredin yng Nghymru
- profiad o ddefnyddio gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru
- bod yn gyfforddus ym mynychu cyfarfodydd ar-lein trwy Microsoft Teams
- bod â mynediad at e-byst i roi adborth a rhannu eich barn am ddatblygiad y prosiect
Mwy o wybodaeth
Yng Nghymru, mae fferyllwyr cymunedol yn darparu gofal o dan y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin sy'n rhoi gofal a chymorth i gleifion ynghyd ag addysg, diweddaru cofnodion cleifion gyda'r wybodaeth y maent yn ei darparu iddynt a’u cyfeirio at ddewisiadau triniaeth.
Hoffai'r tîm ymchwil wella gofal menopos i fenywod trwy ddefnyddio fferyllwyr cymunedol i roi addysg, mynediad at driniaethau, gofal ar sail gwybodaeth i gleifion a mynediad cyflymach at driniaethau.
Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
Cyfrannu syniadau a rhoi adborth ar ddogfennau’r astudiaeth, gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd a chynlluniau ar gyfer cynnwys y cyhoedd, yn yr astudiaeth yn y cyfarfodydd.
Pa mor hir fydd fy angen?
5 x 1 awr o gyfarfodydd tan fis Ionawr 2025 ac adborth drwy e-bost cyn/ar ôl pob cyfarfod neu debyg?
Bydd y prosiect yn cael ei gyflwyno ym mis Ionawr 2025.
Beth yw rhai o'r buddion i mi?
Bydd ein tîm yn:
- Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol,
- Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).
Byddwch chi’n
- Dysgu mwy am sut mae ymchwil yn cael ei ddatblygu
- Dysgu sut y gall ymchwil newid triniaethau a gofal yn y dyfodol
Edrychwch ar ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn.
Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cynghori ar Fudd-daliadau ar gyfer Cyfranogi.
Pa gefnogaeth sydd ar gael?
Bydd person penodol ar dîm y prosiect yn cynnig cymorth a fydd yn dweud wrthych chi am y prosiect ac yn egluro’ch rôl o fewn y grŵp datblygu ac yn ateb unrhyw ymholiadau.
Sut ydw i'n ymgeisio?
Llenwch y ffurflen ar-lein a dywedwch wrthym sut yr ydych chi'n bodloni’r profiad angenrheidiol.
Ddim yn siŵr sut i lenwi'r ffurflen ar-lein neu a hoffech drafod cyfle ymhellach?
Yna gall y tîm eich helpu, cysylltwch â ni trwy e-bost i drefnu sgwrs.
Mae mynediad at unrhyw wybodaeth yr ydych chi’n ei rhannu â ni yn ddiogel, yn gyfyngedig ac yn cael ei thrin yn gyfrinachol.
Beth fydd yn digwydd nesaf.
Os yw eich cais yn cyd-fynd â'r profiad gofynnol, caiff ei anfon at arweinydd y prosiect.
Byddwn yn cysylltu â chi gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd eich cais.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni drwy e-bost neu ffoniwch 02920 230 457.
Categori cyfle:
gwyrdd
Dyddiad cau:
Lleoliad:
Meetings will take place online
Sefydliad Lletyol:
Canolfan ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys Cymru (PRIME)