
Arddangos ymchwil canser arloesol Cymru mewn cynhadledd flynyddol
7 Mawrth
Daeth ymchwilwyr, clinigwyr, academyddion a chyfranogwyr o bob cwr o'r wlad a thu hwnt at ei gilydd i arddangos y gorau o ymchwil canser Cymru yng nghynhadledd flynyddol Canolfan Ymchwil Canser Cymru'r wythnos hon.
Rhoddodd y digwyddiad ddydd Llun 3 Mawrth yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol yng Nghasnewydd gyfle i fynychwyr ddysgu am y diweddaraf mewn arloesedd, profiad ac arbenigedd o bob rhan o'r sbectrwm ymchwil canser.
Roedd y rhaglen amrywiol o siaradwyr yn cynnwys prif sesiynau ar fiopsïau hylif blaengar a defnyddio llofnodion cellwyrol mewn triniaeth canser, yn ogystal â dadl fywiog ar imiwnotherapi a oedd wedi cynnwys Athro Arweiniol Arbenigedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Andy Godkin.
Cafwyd cyflwyniadau hefyd gan ddau aelod o Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yr Athro Krishna Narahari a Dr Stephanie Smits, yn ogystal â sgyrsiau ar firotherapi gan yr Athro Alan Parker a’r daith fasnacheiddio ar gyfer canfod canser y colon a'r rhefr yn gynnar gan yr Athro Dean Harris.
Trafodwyd yr astudiaeth ELIPSE gan yr Athro Narahari, Llawfeddyg Wrolegol Ymgynghorol ac Arweinydd Ymchwil a Datblygu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, astudiaeth a arweiniwyd yng Nghymru ac a gefnogir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae hyn yn gwerthuso canlyniadau dau fath gwahanol o lawdriniaeth i ddynion sydd â chanser prostad lleol risg uchel, sef cael gwared ar y brostad a nodau lymff o'i gymharu â chael gwared ar y brostad yn unig. Mae'r ddau fath o lawdriniaeth yn cael eu perfformio yn y DU ar hyn o bryd, ond nid oes digon o dystiolaeth na chonsensws ar y dull gorau er mwyn arwain cleifion a chlinigwyr.
Meddai'r Athro Narahari, "Yr astudiaeth ELIPSE yw un o'r astudiaethau llawfeddygol canser y brostad mwyaf erioed yn y DU, gan edrych ar ddau fath gwahanol o driniaeth i weithio allan pa un sy'n well o ran gwella canser. Rydym yn gobeithio recriwtio 1000 o ddynion o bob rhan o'r DU ac ateb y cwestiwn hwn yn ystod y pum mlynedd nesaf. Rydyn ni dri mis i mewn i'r astudiaeth ac wedi recriwtio 40 o gleifion hyd yn hyn.
Am y gynhadledd, dywedodd yr Athro Narahari: "Rwy'n cael fy nghyfareddu gan gynulleidfa mor amrywiol, mae yna ymchwilwyr cyn glinigol, ymchwilwyr clinigol, diwydiant, aelodau grŵp Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd. Rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd arnom i geisio dod â mwy o gydweithwyr clinigol i'r cyfarfod hwn yn y dyfodol, mae'n llwybr gwych."
Dr Smits yw Pennaeth Ymchwil Canser y Boblogaeth yn Uned Gwybodaeth ac Arolygiaeth Canser Cymru (WCISU), a ddisgrifiodd fel y "safon aur" ar gyfer data canser yng Nghymru. Yn ei sesiwn cyfeiriodd at nifer o astudiaethau rhyngwladol y mae WCISU yn eu cefnogi ar hyn o bryd, gan ddweud, "Mae Cymru yn genedl fach ond cyrhaeddiad gennym ac rydym yn gwneud cyfraniad gwerthfawr ar raddfa fyd-eang."
Wrth siarad yn y digwyddiad, ychwanegodd yr Athro Mererid Evans Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Canser Cymru: "Gyda mwy na 300 o fynychwyr a dros 100 o bosteri mae'r digwyddiad hwn yn dangos y brwdfrydedd a'r ymgysylltiad sydd yn y gymuned ymchwil canser yng Nghymru. Gobeithio y bydd cynadleddau fel hyn yn helpu i greu momentwm a fydd yn ein cymryd ymlaen.
Dywedodd Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni, Adran Ymchwil a Datblygu Llywodraeth Cymru a Chyd-Gyfarwyddwr Dros Dro Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Daeth y gynhadledd eleni â'r gorau sydd gan ymchwil canser Cymru i'w gynnig at ei gilydd. Roedd yn bleser clywed am amrywiaeth mor eang o bynciau'n cael eu trafod a chael mynediad i fewnwelediad o'r fath ar driniaethau, diagnosteg ac arbenigedd blaengar oddi wrth drawstoriad mor eang o siaradwyr."