Andrew Godkin

Yr Athro Andrew Godkin

Arweinydd Arbenigedd ar gyfer Anhwylderau’r Iau

Graddiodd yr Athro Andrew Godkin o Brifysgol Caerdydd mewn gwyddorau meddygol, ac enillodd ei gymhwyster fel meddyg o Ysbyty Brenhinol Llundain. Cwblhaodd Andrew ei hyfforddiant meddygol a gwyddonol yn Rhydychen ac Imperial cyn mynd ar ei hynt i’r gorllewin. Penodwyd ef yn hepatolegydd ymgynghorol yng Nghaerdydd yn 2002, gydag ymarfer clinigol yn cwmpasu pob agwedd ar glefyd y bustl a’r iau; mae hefyd yn perfformio gweithdrefnau ymarferol, gan gynnwys Colangiopancreatograffi Endosgopig Gwrthredol (ERCP).

Mae Andrew yn rhedeg grŵp ymchwil yn yr Ysgol Feddygaeth, yn canolbwyntio ar imiwnoleg/ bioleg celloedd T ac mae meysydd diddordeb parhaus yn cynnwys imiwnoleg canser, imiwnotherapi a dyluniad brechlynnau lled bwrpasol uwch. Gan bontio gagendor ymchwil sylfaenol a meddygaeth glinigol, sefydlodd dreial brechlyn ym maes canser metastatig datblygedig y colon a’r rhefr yn 2019, ac mae’n agor astudiaeth fwy o imiwnotherapi mewn canser y colon a’r rhefr yn ei gyfnodau cynharach yn 2022.


Yn y newyddion:

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn arweinwyr ledled Cymru i lywio ymchwil y dyfodol (Ebrill 2022)

Cysylltwch â Andrew

E-bost

Ffôn: 02920744879