O chwarae pêl rwyd i Gymru i arwain ymchwil ffisiotherapi sy’n newid bywydau yng Nghymru
Dydych chi ddim yn aml yn cysylltu mabolgampwr rhyngwladol ag ymchwilydd clinigol, ond bu Dr Ceri Battle, ffisiotherapydd ymchwil o fri yng Nghymru, yn chwarae pêl rwyd i Gymru mewn dau o Gemau’r Gymanwlad a chafodd ei hysbrydoli gan brofiadau ffrind i hyfforddi i ddod yn ffisiotherapydd.
Wrth i ni edrych ar y bobl y tu ôl i’r ymchwil hynod yng Nghymru, gwnaethon ni gyfarfod â Ceri, 45 oed o Gastell-nedd, sy’n cydbwyso’i hamser rhwng ei rôl fel ffisiotherapydd ymchwil yn Ysbyty Treforys yn Abertawe a’i rôl fel Cydarweinydd Arbenigedd ar gyfer Ymchwil Trawma a Gofal Brys yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru â dringo mynyddoedd gyda’i gwraig a’u sbaengi achub Patchy.
“Pan roeddwn i’n tyfu i fyny, pêl rwyd oedd fy hoff gêm a chwaraeais i Gymru am fwy na 15 mlynedd, yn cynnwys chwarae mewn dau o Gemau’r Gymanwlad yn Kuala Lumpur a Manceinion. Penderfynais wneud gradd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd fel y gallwn i ddod yn athrawes addysg gorfforol. Gwnes i ddod yn ffisiotherapydd oherwydd bod gan un o’m ffrindiau o’r brifysgol ffibrosis systig. Roedd yn arfer ymweld â ffisiotherapydd anadlu a gwelais cymaint o wahaniaeth roedd hyn yn ei wneud a chefais fy ysbrydoli gan hyn.
“Unwaith yr oeddwn i wedi cymhwyso fel ffisiotherapydd, pan roeddwn i’n gweithio ym maes gofal critigol mi sylwais nad oedd y broses adfer bob amser yn llyfn i gleifion a oedd wedi torri eu hasennau. Roeddwn i eisiau dod o hyd i ffyrdd newydd i wella triniaethau a’n ffordd o ofalu am y cleifion hyn. Yn aml, byddai cleifion yn cael eu hanfon adref o’r adran achosion brys ac yna, diwrnodau’n ddiweddarach, bydden nhw’n dod yn ôl i’r ysbyty â mwy o gymhlethdodau.
“Dwi’n cofio parafeddyg yn dod i mewn a oedd wedi llithro ar rew, wedi cwympo ac anafu ei asennau. Daeth i’r adran damweiniau ac achosion brys lle roedden nhw’n meddwl mai dim ond un asen oedd wedi torri ac felly anfonwyd ef adref i wella ond, yn anffodus, roedd ei anafiadau’n fwy difrifol na hynny. Bedwar diwrnod yn ddiweddarach daeth yn ôl â niwmonia difrifol a bu farw yn ein huned gofal dwys. Ers hynny, dwi wedi ymroddi i wella deilliannau i gleifion fel ef trwy ymchwil.
“Dechreuais i weithio ar offeryn risgiau ar gyfer cleifion sy’n cyrraedd yr adran damweiniau ac achosion brys yr amheuir eu bod wedi torri asennau. Mae hyn yn galw am roi sgôr i gleifion ar sail set o gwestiynau, fel eu hoedran a sawl asen y maen nhw wedi’u torri. Mae’r sgôr honno’n dangos a ddylen nhw fynd adref, i ward neu i ofal critigol. O’r blaen, byddai meddyg damweiniau ac achosion brys yn defnyddio’i grebwyll ond mae’r offeryn risgiau hwn yn golygu bod y cleifion i gyd nawr yn cael eu hasesu yn yr un ffordd. Rydyn ni’n nodi’r cleifion â’r risg fwyaf yn gyflymach ac yn rhoi’r driniaeth sydd ei hangen arnyn nhw, sy’n golygu eu bod nhw’n fwy tebygol o wella’n llwyr. Daeth gwerthuso llwyddiant yr offeryn risgiau hwn yn gyfnod cyntaf y Treial STUMBL.”
Fel Cydarweinydd Arbenigedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer Trawma a Gofal Brys, sef rôl a ddaeth i’w rhan yn 2019, mae Ceri yn gyfrifol am gefnogi a hyrwyddo gwaith datblygu ymchwil a fydd yn arwain at welliannau i gleifion sydd angen gofal brys. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n ariannu ei threial newydd sy’n edrych ar fuddion ymarfer corff cynnar mewn cleifion â thrawma i wal y frest (Treial ELECT2).
Mae Ceri yn siarad am sut y mae’r pandemig wedi dwyn sylw at yr angen am ymchwil. Mae’n parhau:
“Yn ystod y pandemig, gwnes i roi’r gorau i fy ymchwil fy hun a mynd yn ôl i waith clinigol amser llawn. Fel ffisiotherapyddion, rydyn ni’n chwarae rhan fawr mewn rhoi cleifion mewn osgo yn gorwedd wyneb i waered, sy’n golygu symud cleifion i orwedd ar eu stumog er mwyn cynyddu’r ocsigen o amgylch y corff, sy’n hollbwysig i gleifion sy’n ddifrifol wael â COVID-19. Mae troi cleifion i orwedd ar eu stumog yn gallu bod yn gorfforol llethol ac anodd. Hefyd, gwnes i arwain y rhan fwyaf o’r astudiaethau COVID-19 yn ein huned gofal dwys. Roedd y don gyntaf a’r ail mor ddwys a dwi’n teimlo fel fy mod i dal wedi blino’n lân ohonyn nhw. Gwnaeth y pandemig ddangos mor hanfodol ydy treialon clinigol a gwnaeth hyn fi yn fwy penderfynol fyth o barhau i ymchwilio i’r triniaethau gorau ar gyfer fy nghleifion.
“Dwi’n mwynhau fy ngwaith fwyaf pan rydyn ni’n gallu helpu rhywun sy’n ddifrifol wael neu wedi anafu i godi o’r gwely am y tro cyntaf. Mae ymchwil yn golygu ein bod ni’n gwybod sut i wneud hyn yn ddiogel ac mor effeithiol â phosibl. Dwi’n gwneud ymchwil oherwydd bod angen hyn i’n helpu ni i ddod o hyd i ffyrdd gwell o drin cleifion a gwella ein ffordd o ofalu am bobl yn y tymor hir. Dwi’n dwli ar fod yn ffisiotherapydd ymchwil a galla’ i ddim dychmygu gwneud unrhyw beth arall nawr.”
Dysgwch fwy am y bobl y tu ôl i'r ymchwil ac am sut y mae ymchwil yng Nghymru wedi newid bywydau
I gael y newyddion diweddaraf am ymchwil yng Nghymru yn syth i’ch mewnflwch, cofrestrwch i dderbyn ein bwletin wythnosol.