Darluniau nebula gloyw o'r ymennydd

Wythnos Ymwybyddiaeth yr Ymennydd 2023

A hithau'n Wythnos Ymwybyddiaeth Ymennydd (Mawrth 13 – 19 2023) rydym am rannu peth o'r ymchwil anhygoel sy'n mynd ymlaen yng Nghymru gan edrych ar yr ymennydd a chyflyrau niwrolegol.

Yng Nghymru, mae gennym uned ymchwil bwrpasol ar gyfer BRAIN (Brain Repair and Intracranial Neurotherapeutics) lle mae arbenigwyr o bob rhan o Gymru yn gweithio gyda'i gilydd a gyda phobl y mae cyflyrau niwrolegol yn effeithio arnynt i ddatblygu a chynnal ymchwil a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar y rhai sy'n cael eu heffeithio a'u teuluoedd.

Mae llawer o gyflyrau gwahanol ar yr ymennydd a niwrolegol sy'n cael effaith enfawr ar bobl sy'n byw gyda nhw. Mae ymchwil i arferion gorau, triniaethau newydd ac arloesol a mesurau ataliol yn bwysig i sicrhau bod pobl yn cael y gofal gorau posib i fyw eu bywydau'n dda.

Dyma ddetholiad bychan o beth o'r ymchwil sy'n cael ei wneud:

Triniaeth i'r ymennydd a'r meddwl:

Fel arfer, mae triniaeth ar gyfer Anaf Caffaeledig i'r Ymennydd (ABI) yn canolbwyntio ar adsefydlu yn unig. Mae'r Athro Andrew Kemp a'i dîm ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn ymchwilio i driniaeth newydd sy'n canolbwyntio ar les yn ogystal ag adsefydlu i wella canlyniadau i bobl sy'n byw gydag ABI.

Amser bwyd positif ar gyfer gwell ansawdd bywyd:

Mae cyflyrau'r ymennydd yn gallu effeithio ar ansawdd bywyd mewn gwahanol ffyrdd. Gall rhywbeth rydyn ni'n ei gymryd yn ganiataol, fel bwyta ac yfed, gael ei effeithio. Dysgwch am ymchwil i greu profiad positif yn ystod prydau bwyd a pham mae'n bwysig:

Trawsblaniadau: Gwyddoniaeth nid ffuglen wyddonol: 

Mae trawsblaniadau ymennydd i'w gweld yn aml mewn ffilmiau ond yma yng Nghymru rydym yn ymchwilio a all trawsblaniadau niwral wella niwroddirywioldeb mewn cyflyrau fel clefyd Huntington. Nid ffuglen wyddonol yw hyn  ond mae'n wyddoniaeth!

Mae cael y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwil anhygoel sydd wedi digwydd, yn digwydd a bydd yn digwydd yn y dyfodol beth am nodi tudalen ein gwefan ac ymrwymo i'n bwletin.