
Dr Sam Chawner
Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Gwobr: Gwobr Arweinydd Newydd (2025 - 2026)
Bywgraffiad
Ar hyn o bryd mae Sam yn Uwch Gymrawd Ymchwil yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd sy'n astudio'r achosion a datblygiad iechyd meddwl plant gan ddefnyddio gwyddor data iechyd meddwl a methodolegau genetig arloesol.
Enillodd ei radd BA mewn Gwyddorau Naturiol (Seicoleg) o Brifysgol Caergrawnt, a chwblhaodd ei PhD yng Nghanolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig Prifysgol Caerdydd. Ar hyn o bryd mae ganddo Wobr Datblygu Gyrfa Wellcome Trust uchel ei bri, sy'n canolbwyntio ar epidemioleg ac etioleg Anhwylder Osgoi a Chyfyngu ar Fwyd (ARFID). Mae'n gyd-ymchwilydd yr astudiaeth IMAGINE-ID, sy'n archwilio iechyd meddwl plant â chyflyrau genetig prin, ac mae'n angerddol dros ymgysylltu â'r cyhoedd â chynulleidfaoedd amrywiol i godi ymwybyddiaeth o genomeg ac iechyd meddwl.
Mae Sam wedi ymrwymo i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant mewn ymchwil, a amlygwyd hyn gan ei Wobr Seren Newydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2024.
Darllen mwy am Sam a’u gwaith:
Hyrwyddo’r Ymchwil Orau Yng Nghymru Yng Nghynhadledd Flynyddol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru