Dr Nicola Williams being filmed by ITV Wales

“Mae Treialon clinigol yn hanfodol i bob meddyginiaeth newydd” – Wales This Week ar ITV

Mae ein Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymorth a Chyflawni, Dr Nicola Williams, wedi rhoi golwg allweddol ar y ffordd y mae treialon clinigol yn cael eu cynnal yng Nghymru yn rhaglen ddogfen deimladwy a phwerus Wales This Week ar ITV.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi bod yn gweithio gydag ITV Cymru a phartneriaid eraill, gan gynnwys Ymddiriedolaeth GIG Felindre, i helpu i roi sylw i fanteision, cyfleoedd a heriau cyflwyno treialon clinigol yng Nghymru.

Gwyliwch y rhaglen ddogfen lawn ar wefan ITV.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am yr ymchwil sy'n achub bywyd sy'n digwydd yng Nghymru, a phobl fel chi sy'n gwneud iddo ddigwydd, darllenwch rai o'n straeon eraill:

Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan raglen ddogfen ITV i gymryd rhan mewn ymchwil, edrychwch sut gallwch chi fod yn rhan ohono.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol sy'n digwydd yng Nghymru cofrestrwch i dderbyn ein bwletin ac i wybod pa astudiaethau sy'n chwilio am gyfranogwyr ewch i wefan Be Part of Research.