Dr Jamie Nash yn gweithio yn y labordy

Ymchwilwyr o Gymru yn ymchwilio i'r defnydd o blatennau gwaed wedi'u storio'n oer er mwyn ceisio achub mwy o fywydau

13 Chwefror

Mae ymchwilwyr yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru yn gweithio ar y cyd â’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) i archwilio a allai storio platennau gwaed yn oer wella canlyniadau cleifion ac achub mwy o fywydau yn dilyn anaf trawmatig difrifol.

Mae Dr Jamie Nash yn gweithio ar yr astudiaeth ymchwil, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, dan oruchwyliaeth Dr Christine Saunders, Gwyddonydd Ymchwil yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru.

Dywedodd y tîm ymchwil y gallai platennau – sy'n allweddol wrth helpu i ffurfio clotiau gwaed ac atal gwaedu – pan gânt eu storio yn oer, bara dwywaith cyn hired â'r rhai sy'n cael eu storio ar dymheredd ystafell, a bod ganddynt y potensial i fod yn fwy effeithiol wrth atal gwaedu.

Cymharodd Dr Nash platennau â ‘phlwg bath’ ac esboniodd mai nod yr ymchwil oedd defnyddio platennau wedi’u storio’n oer ar gyfer trin cleifion gofal critigol cyn mynd i’r ysbyty.

Dywedodd: “Mae’n heriol storio a chludo platennau mewn amgylchedd cyn mynd i’r ysbyty gan fod angen eu hysgwyd yn gyson a’u cadw ar dymheredd ystafell gydag oes silff fer o saith diwrnod.”

Yn ein hastudiaeth, rydym am weld a fydd storio platennau yn oer yn driniaeth effeithiol ar gyfer cleifion trawma difrifol sy’n cael triniaeth gofal critigol cyn mynd i’r ysbyty.”

Mae ymchwil, a amlygwyd mewn adolygiad diweddar, wedi nodi bod storio platennau yn oer, rhwng dwy a chwe gradd Celsius, yn galluogi cadw platennau am 14 diwrnod heb eu hysgwyd. Nodir hefyd mewn nifer o astudiaethau bod platennau wedi'u storio’n oer yn fwy effeithiol wrth atal gwaedu a fyddai'n fuddiol i gleifion ag anafiadau trawmatig.

Dywedodd Dr Nash fod trawma yn achosi tua 17,000 o farwolaethau bob blwyddyn a'i fod wedi bod yn brif achos marwolaeth i bobl dan 40 oed a phobl hŷn yn y DU, sy'n cyfateb i tua 46 o farwolaethau bob dydd.

Parhaodd: “Gwyddom o dystiolaeth ymchwil pe bai triniaeth gofal critigol yn cael ei rhoi i gleifion trawma cyn iddynt gyrraedd yr ysbyty, gellid lleihau nifer y marwolaethau a hyd arhosiad mewn ysbyty.”

“Mae amser yn hollbwysig wrth drin cleifion sy’n gwaedu’n ddifrifol – os ydym yn gallu storio'r platennau mewn blwch oer ar ambiwlans awyr a weithredir gan EMRTS, bydd cleifion yn cael triniaeth fwy effeithiol sy'n cyfateb i arferion ysbytai ar gyfer gwaedu difrifol.”

“Gallwn wella gofal cleifion drwy newid bach – rhoi'r platennau mewn lle oer – a dyna'r cyfan sy'n rhaid i ni ei wneud i achub bywydau.”

Dywedodd y tîm ymchwil mai nod Gwasanaeth Gwaed Cymru yn y pen draw yw cefnogi treial clinigol o blatennau sydd wedi’u storio’n oer, yn y gobaith y byddai’n dod yn arfer safonol ledled y DU ac yn rhyngwladol.

Dywedodd Marc Boggett, Pennaeth Grantiau yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Rydym wrth ein bodd i fuddsoddi yn y prosiect hwn o ansawdd uchel, sef yr astudiaeth gyntaf a arweinir gan Wasanaeth Gwaed Cymru ac a ariennir gan gynlluniau ariannu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Gobeithio y bydd yr astudiaeth bwysig hon, ynghyd â’r ystod amrywiol o ymchwil a ariannwn, yn helpu i newid bywydau a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i iechyd a llesiant pobl.”

Dywedodd David Lockey, Cyfarwyddwr Cenedlaethol EMRTS: “Er gwaethaf datblygiadau mawr, mae gwaedu yn dal i fod yn un o brif achosion marwolaethau y gellir eu hatal ymhlith ein cleifion trawma. Mae defnyddio platennau’n effeithiol cyn mynd i’r ysbyty yn ddarn arall o'r pos sydd â'r potensial i wella gofal ac achub bywydau. Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o'r prosiect hwn gyda'r gwasanaeth trallwyso.”

Emergency Medical Retrieval and Transfer Service
Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys