Cymrawd Ymchwil - Gwyddor Data Canser
Mae'r rôl hon yn gyfle cyffrous i ymuno â'r grŵp Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe a gweithio ar amryw o brosiectau canser sy'n cyd-fynd â Strategaeth Ymchwil Canser Cymru (CreST; https://walescancerresearchcentre.org/wp-content/uploads/CReSt-English-FINAL.pdf) a ariennir gan Ganolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC) drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Y prif ffocws fydd mwyafu'r defnydd o ddata canser aml-ddull a gesglir yn rheolaidd er mwyn ymchwilio i epidemioleg canserau ac archwilio methodolegau newydd er mwyn canfod canser yn gynnar a chael meddyginiaeth benodol ar ei gyfer. Swydd cymrawd ymchwil yw hon ac rydym yn disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gael annibyniaeth dros ei agenda ymchwil a mynd ati i geisio cyfleoedd cyllid newydd i gryfhau'r tîm presennol a datblygu annibyniaeth ei yrfa.
SU00848