blood sugar checker

Cymru yw'r cyntaf yn y DU i lansio treial diabetes math 1 arloesol

23 Gorffennaf

Cymru yw'r genedl gyntaf yn y DU i agor recriwtio ar gyfer T1D-Plus - treial clinigol rhyngwladol mawr sy'n archwilio strategaethau triniaeth arloesol ar gyfer oedolion sydd newydd gael diagnosis o ddiabetes math 1 (T1D). 

Dan arweiniad y Ganolfan Ymchwil Treialon ym Mhrifysgol Caerdydd, mae'r astudiaeth nodedig hon yn gam sylweddol ymlaen ym maes gofal ac ymchwil diabetes yng Nghymru. 

Cyfle i dimau diabetes yng Nghymru 

Mae'r treial hwn yn cynnig cyfle unigryw i wasanaethau diabetes arbenigol ledled Cymru gyfrannu at ymchwil arloesol gyda'r potensial i ail-lunio ymyrraeth gynnar mewn diabetes math 1.  Mae cyfranogiad cynnar ac atgyfeirio yn allweddol, gan fod triniaeth yn fwyaf effeithiol yn yr wythnosau cyntaf ar ôl diagnosis. 

Pwy all gymryd rhan? 

Mae cyfranogwyr cymwys: 

  • Yn 18 i 44 oed
  • Wedi cael diagnosis o T1D o fewn y chwe wythnos diwethaf (42 diwrnod) o'u dos inswlin cyntaf
  • Heb gael triniaeth o'r blaen gydag imiwnotherapi
  • Yn gallu mynychu apwyntiadau dilynol yng Nghaerdydd dros 12 mis 

Beth sy'n gysylltiedig? 

Bydd cyfranogwyr: 

  • Yn ymweld â'r clinig bob tri mis am flwyddyn
  • Yn derbyn dosau o Verapamil sy'n cynyddu'n raddol (hyd at 360 mg)
  • Yn cael eu dyrannu i gangen driniaeth sy'n cynnwys naill ai trwyth, pigiad, neu therapi imiwnedd geneuol

Dan arweiniad arbenigwyr yng Nghymru 

Mae'r treial hwn yn cael ei arwain gan yr Athro Colin Dayan, Athro Diabetes Clinigol a Metaboledd a Chyfarwyddwr Swyddfa Ymchwil ar y Cyd ar gyfer Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, a'i gyflwyno drwy rwydwaith INNODIA.  

Dywedodd yr Athro Colin Dayan, y Prif Ymchwilydd:  "Rydyn ni'n gwybod bod yr ymosodiad imiwnedd ar gelloedd sy'n cynhyrchu inswlin yn fwyaf gweithgar yn yr wythnosau cynnar ar ôl diagnosis.  

"Dyna pam mae atgyfeirio cynnar mor bwysig.  Trwy weithredu'n gyflym, gallwn gynnig cyfle i gleifion gymryd rhan mewn ymchwil a allai amddiffyn eu swyddogaeth beta-gelloedd sy'n weddill - ac o bosibl newid cwrs eu diabetes."  

Cryfder mewn ymchwil 

Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymorth a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Mae bod y wlad gyntaf yn y DU i agor recriwtio ar gyfer y treial T1D-Plus yn tynnu sylw at gryfder ein seilwaith ymchwil ac ymroddiad ein timau clinigol ledled y wlad." 

Ynglŷn â'r treial 

Treial aml-ganolfan, label agored yw treial T1D-Plus sy'n profi a all y cyfuniad o feddyginiaeth pwysedd gwaed cyffredin, Verapamil, gydag un o dri therapi imiwnedd, gadw'n well celloedd beta sy'n cynhyrchu inswlin o'i gymharu â Verapamil yn unig. Os yw'n llwyddiannus, gallai'r dull arwain at well rheolaeth glwcos yn y gwaed, llai o anghenion inswlin, a llai o gymhlethdodau hirdymor.

I gael rhagor o wybodaeth neu er mwyn atgyfeirio cleifion, cysylltwch ag Alex (Howella4@cardiff.ac.uk) neu Shinto (joses8@cardiff.ac.uk), neu ewch i wefan www.type1diabetesresearch.org.uk