Cynhadledd Ymchwil Gwasanaethau Iechyd y DU 2021
Mae Ymchwil Gwasanaethau Iechyd y DU (HSR UK) wedi ymrwymo i hybu ymchwil gwasanaethau iechyd mewn polisi ac arfer. Mae’r gynhadledd flynyddol yn agored i bawb sydd â diddordeb mewn ymchwil gwasanaethau a systemau iechyd a gofal, ac mae’n cynnig y cyfle ichi:
- Ymgysylltu ag ymchwil arloesol Mae’r rhaglen yn un amlddisgyblaeth, gydag amrywiaeth eang o gyflwyniadau ymchwil a gweithdai rhyngweithiol sydd wedi’u dewis oherwydd eu pwysigrwydd a’u heffaith, ochr yn ochr â sesiynau llawn gydag arweinwyr barn allweddol ym meysydd ymchwil, polisi ac arfer.
- Adeiladu’ch rhwydweithiau a chlywed oddi wrth y rheini sy’n gosod agenda. Trwy’r platfform cynhadledd rhyngweithiol, fe fyddwch chi’n cael y cyfle i adeiladu’ch rhwydweithiau ar draws cymunedau ymchwil, polisi ac arfer, meithrin cydweithrediadau newydd ac ymgysylltu â dylanwadwyr a phenderfynwyr allweddol.
- Cyflwyno’ch ymchwil eich hun i’r gynulleidfa ehangaf posibl. Bydd cyfranogion yn mynychu o brifysgolion a sefydliadau ymchwil, asiantaethau ariannu ymchwil, y llywodraeth, y GIG a chyrff gofal cymdeithasol, cyfnodolion allweddol a adolygir gan gymheiriaid, y diwydiant, ymgynghoriaethau a’r trydydd sector. Gwnaeth mwy na 3,000 o gyfranogion gofrestru ar gyfer cynhadledd y llynedd. Oherwydd y fformat ar-lein eleni, mae HSR UK yn disgwyl cael nifer sylweddol o gyfranogion rhyngwladol unwaith eto.
-
Ar-lein
Sefydliadau sy’n aelodau o HSR UK.
Cyfradd safonol - £145.00
Cyfradd i’r rheini nad ydyn nhw’n aelodau:
Cyfradd safonol - £190.00
I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i wefan Eventforce.