De Orllewin Cymru: Cynhadledd Ymchwil Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Nyrsys Canser
Bydd Canolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC) yn cynnal cynhadledd ranbarthol gyntaf rhwydwaith ymchwil Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Nyrsys Canser. Mae’r digwyddiad yn cael ei westeio gan staff o dde orllewin Cymru, a nhw sy’n cael sylw ynddo, ond mae WCRC yn croesawu nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd o ledled Cymru i ymuno â ni. P’un a ydych chi wedi hen arfer ag ymchwil neu’n gwbl newydd i’r maes, rydyn ni’n eich gwahodd i ddod i rwydweithio, clywed am arfer gorau a dysgu oddi wrth eich cymheiriaid.
Rhaglen:
- 13:00 - 13:10 Croeso
- 13:10 - 13:30 Y diweddaraf gan WCRC – Jane Hopkinson, Nichola Gale
- 13:30 - 14:50 Siaradwyr gwadd
- 13:30 - 13:50 Dod yn Brif Ymchwilydd - Ceri Battle
- 13:50 - 14:10 Strategaeth Ymchwil Nyrsio o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Louise Condon
- 14:10 - 14:30 Rhwystrau y mae nyrsys yn eu hwynebu wrth ddechrau ymchwilio - Anne Claire Owen
- 14:30 - 14:50 Ymchwil radiotherapi yn UDA a’r DU - Regina Ley
- 14:50 - 15:20 Sesiynau mewn grwpiau / grwpiau rhwydweithio
- Gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd (heblaw am radiograffwyr)
- Nyrsys
- Radiograffwyr
- 15:20 - 15:35 – Egwyl
- 15:35 – 16:35 – Y newyddion rhanbarthol diweddaraf
- 15:35 - 15:55 gogledd Cymru
- 15:55 - 16:15 de ddwyrain Cymru
- 16:15 - 16:35 de orllewin Cymru
- 16:35 - 17:00 Trafodaeth a diweddglo
-
Ar-lein
Rhad ac am ddim
I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i wefan trefnwyr y digwyddiad.