Hoffech chi roi eich barn ar ba ymchwil sy'n cael ei ariannu?

Sicrhau bod ein hymchwil yn berthnasol i gleifion a'r cyhoedd.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cynnal nifer o gynlluniau ariannu ac mae angen aelodau o'r cyhoedd i helpu i adolygu ceisiadau i'r cynlluniau hynny. Mae'n bwysig ein bod yn sicrhau bod yr ymchwil rydym yn ei ariannu yn berthnasol i gleifion.

Hoffai ein tîm gael eich cymorth i adolygu ceisiadau ymchwil i'n cyllid newydd o'r enw Cynllun Cyllid Integredig.

 

Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
  • an interest in health and social care research
  • an interest in reviewing applications and providing feedback
  • the ability to attend meetings online

Rydym yn chwilio'n benodol am adolygwyr sydd â gwybodaeth neu brofiad o unrhyw un o'r pynciau canlynol:

  • Heintiau Llwybr Wrinol (UTI)
  • Gofal brys i fabanod
  • Liposuction
  • Endometriosis
  • Clefyd anadlol
  • Practis Cyffredinol/GIG/Fferylliaeth Gymunedol
  • Plant ag anawsterau dysgu
  • HIV
  • Tai a gofal cymdeithasol
  • Plant a diogelu
  • Dyfeisiau Deallusrwydd Artiffisial mewn gofal iechyd
  • Canser y fron
  • Dementia/Gofalwr
  • Cymunedau Maes Glo Cymru
  • Epidemioleg seiliedig ar ddŵr.
Beth fydd gofyn i mi ei wneud?

Gofynnir i chi adolygu hyd at ddau gais am gyllid a rhoi eich barn a'ch adborth. Bydd hyn yn helpu i benderfynu pa brosiectau ymchwil sy'n derbyn cyllid.

Bydd disgwyl i chi hefyd gymryd rhan mewn cyfarfod cymorth am awr i'ch helpu i adolygu'r ceisiadau am gyllid.

Gofynnir i chi hefyd roi adborth ar eich profiadau o adolygu'r ceisiadau.

Pa mor hir fydd fy angen?

Bydd eich angen am tua 5 awr. Un awr ar gyfer y cyfarfod cymorth. Dylai pob cais gymryd tair awr yr un i'w adolygu ac awr arall ar gyfer rhoi gwybod am eich profiad.

Beth yw rhai o'r buddion i mi?
  • Learn how researchers develop funding applications and how funding is decided.
  • Learn about the future of research in Wales
  • Play an important part in shaping the research landscape in Wales
Pa gefnogaeth sydd ar gael?
  • Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol,
  • Cynnig taliad o £100.00 fesul adolygiad cais (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).
  • Person penodol i ddarparu cefnogaeth

 

Edrychwch ar ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn.

Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cynghori ar Fudd-daliadau ar gyfer Cyfranogi.

I wneud cais, llenwch y ffurflen isod.

Dyddiad cau:

Lleoliad:
Ar-lein

Sefydliad Lletyol:
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn

Cysylltwch â'r tîm

Ffurflen mynegi diddordeb

Sut wnaethoch chi glywed am y cyfle hwn?
Os cyfryngau cymdeithasol, pa sianel?
Rydw i wedi darllen a chytuno i’r cytundeb cynnwys y cyhoedd
Datganiad GDPR

Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n defnyddio’r wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu er mwyn i ni berfformio’r dasg rydych chi’n darparu’r wybodaeth ar ei chyfer yn unig. Dilynwch y ddolen i’n Polisi Preifatrwydd a thicio isod i ddangos eich bod yn cytuno i ni fwrw ymlaen â’r dasg:Rydw i’n cytuno