Nod ymchwil newydd yw gwella lles ceiswyr lloches drwy therapi corfforol
22 Ionawr
Mae ymchwilydd, a gafodd ei gwahanu oddi wrth ei theulu ar ôl iddi ffoi o Nigeria yn ei harddegau, yn gobeithio gwella lles ceiswyr lloches eraill trwy astudiaeth a ariannwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Daeth Tinuola Agnes Gunwa i Iwerddon yn 2002 i geisio noddfa, ac mae bellach yn gweithio fel meddyg sy'n arbenigo mewn seiciatreg. Fe'i disgrifiodd fel 'anrhydedd' i gyfrannu ei phrofiad a'i gwybodaeth i gefnogi pobl sy'n ceisio noddfa.
Arweinir yr astudiaeth, y mae Tinuola yn gyd-ymgeisydd ohoni, gan Dr Paula Foscarini-Craggs a bydd yn edrych ar y rôl y mae gweithgaredd corfforol yn ei chwarae wrth hyrwyddo lles pobl ar ôl eu profiad trawmatig. Bydd y tîm ymchwil yn datblygu therapi sy'n seiliedig ar symudiadau gyda cheiswyr noddfa yn cymryd rhan mewn addysgu.
Dywedodd Tinuola: "Mae llawer o bobl sy'n chwilio am noddfa yn profi anhwylder straen wedi trawma, sydd wedi'i achosi gan y trawma a wnaeth iddyn nhw ffoi o'u gwledydd, neu'r teithiau anodd yr oedden nhw wedi mynd drwyddynt.
"Gall profiad trawmatig effeithio ar ein bywyd bob dydd, gan effeithio ar iechyd corfforol a meddyliol, gan eu bod yn gydgysylltiedig.
"Yn ystod fy nghyfnod roeddwn i'n blentyn trist iawn. Cefais fy ngwahanu oddi wrth fy nheulu a chollais gysylltiad â nhw. Doeddwn i ddim yn gwybod ble oedden nhw, gan nad oedd ffonau symudol yn gyffredin yn Nigeria ar y pryd ac roeddwn i'n colli fy nheulu.
"Dwi'n cofio pan o'n i'n chwilio am noddfa, wnaethon ni lot o weithgareddau dawnsio a symudiad. Wrth edrych yn ôl, sylweddolais fy mod i'n teimlo'n llawer ysgafnach ac yn hapusach bob tro ar ôl dawnsio.
"Mae pobl yn tueddu i ymgysylltu'n well os oes rhywun â phrofiad byw. Byddaf yn arwain rhai o'r grwpiau i greu amgylchedd diogel o ymddiriedaeth.
"Rwy'n falch iawn fy mod wedi gallu bod yn rhan o'r astudiaeth. Mae'n fraint i mi feithrin rhywfaint o obaith ac ymddiriedaeth ynddynt."
Dywedodd Dr Paula Foscarini-Craggs, Rheolwr Treialon yn y Ganolfan Ymchwil Treialon ym Mhrifysgol Caerdydd, fod ymchwil yn dangos bod hyd at 50 y cant o geiswyr noddfa wedi cael profiad trawmatig pan gawsant eu gorfodi i ffoi o'u gwlad, gan achosi anghenion iechyd corfforol a meddyliol mwy cymhleth.
Gyda chefndir proffesiynol mewn seicoleg iechyd, mae Dr Foscarini-Craggs yn credu bod gweithgarwch corfforol yn chwarae rhan bwysig wrth hyrwyddo lles pobl.
Meddai: "Mae ceiswyr noddfa’n cael llawer o drafferth cael gafael ar gymorth gofal iechyd yn y DU. Mae yna lawer o rwystrau o gwmpas, fel ieithoedd, neu ddeall gwahanol systemau gofal iechyd.
"Rydyn ni'n ceisio datblygu therapi sy'n cael ei arwain gan symudiad, gan fod tystiolaeth wedi dangos bod trin iechyd meddwl a chorfforol gyda'i gilydd yn well na'u trin ar wahân."
Yn ei hastudiaeth, bydd Dr Foscarini-Craggs yn creu therapi newydd sy'n integreiddio ymarfer corff ac addysg.
Parhaodd, gan nodi: "Mae'r ymyriad yn weithgaredd corfforol sy'n cynnwys anadlu'n ofalus, ystumiau ioga ac adeiladu cryfder.
"Byddwn hefyd yn cynnwys elfennau addysgol a bydd cyfranogwyr yn cael eu dysgu i ddeall y symptomau pan fydd person yn cael pwl o banig, a pha fath o weithgareddau, boed yn anadlu neu'n ymarferion corfforol, a all wella'r symptomau hynny."
Bydd ymchwil Dr Foscarini-Craggs yn addasu'r therapi i ddiwallu anghenion pobl yn y DU, a hefyd i gynnwys pobl sy'n chwilio am noddfa fel arweinwyr cymheiriaid i gyflawni'r ymyrraeth.
Meddai:
Rydyn ni eisiau helpu pobl i fagu eu hyder ac aros yn gorfforol egnïol gan ei fod yn dda i'w hiechyd meddwl. Rydym yn edrych i addasu'r therapi a'i gyflwyno i ddarparwyr gofal iechyd fel ffisiotherapyddion, meddygon teulu, therapyddion galwedigaethol yn y DU, ond yn bwysicaf oll i bobl sy'n chwilio am noddfa eu hunain."
I gael y diweddaraf o fyd ymchwil yng Nghymru, cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol.
Mae'r Ganolfan Ymchwil Treialon yn cael ei hariannu'n gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.