Beth am helpu i wella triniaethau sy'n gofalu am system imiwnedd pobl?

Gallech gyfrannu at ddulliau newydd a allai fod yn rhan hollbwysig o ymchwilio i ymateb imiwnyddol yng Nghymru.Gallech gyfrannu at ddulliau newydd a allai fod yn rhan hollbwysig o ymchwilio i ymateb imiwnyddol yng Nghymru.

Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?

Bydd angen:

  • y gallu i adolygu a rhoi adborth
  • dealltwriaeth sylfaenol o ymateb imiwnyddol, brechlynnau, neu atal heintiau

Bydd angen i chi hefyd fod yn aelod o un o'r grwpiau canlynol:

  • wedi cymryd rhan mewn ymchwil glinigol neu banel adborth ymchwil yn flaenorol
  • profiad personol o ymateb imiwnyddol is i heintiau neu frechlynnau
  • bod yn 60 oed neu’n hŷn
  • bod yn warcheidwad i blant a phobl ifanc 8 oed ac yn hŷn

Mwy o wybodaeth

Mae LEGACY Wales yn rhaglen bum mlynedd sy'n archwilio ymateb imiwnyddol nodau lymff i wella triniaethau ataliol.

Bydd yr ymchwil yn datblygu dulliau unigol ac arbenigol iawn o gyflawni allsugno drwy nodwydd mân dan arweiniad uwchsain – pan fydd meddyg yn rhoi nodwydd mân iawn yn rhan o'r corff fel nodau lymff ac yn allsugno rhai celloedd i mewn i chwistrell i helpu i wneud diagnosis o feinwe annormal.

Gallai'r ymchwil hon hybu triniaethau a therapïau ataliol a bydd hefyd yn dod â chyfleoedd ymchwil clinigol i gleifion a phobl sy'n byw yng Nghymru.

Beth fydd gofyn i mi ei wneud?

Byddwch yn rhoi adborth ar syniadau ymchwil, yn rhannu profiadau ynghylch cymryd rhan mewn ymchwil neu farn ar imiwnedd i helpu ymchwilwyr i gynhyrchu dogfennau ar gyfer y rhai sy’n cymryd rhan.

Efallai y bydd angen i chi baratoi am awr cyn y cyfarfod drwy ddarllen ac adolygu dogfennau.

Pa mor hir fydd fy angen?

Bydd angen i chi fynychu un cyfarfod cychwynnol (2 awr) a chyfarfodydd chwarterol am hyd at bum mlynedd os caiff y prosiect ei ariannu.

Beth yw rhai o'r buddion i mi?

Buddion i chi :

  • Cael gwybodaeth am ymchwil i’r system imiwnedd ac ymateb nodau lymff
  • Mynychu trafodaethau gydag arbenigwyr ymchwil a chyfrannu atynt
  • Cyfle i ddod yn rhan o grŵp hirdymor sy'n hyrwyddo ymchwil ymateb imiwnyddol yng Nghymru

Bydd ein tîm yn: 

  • Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol,
  • Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).

Edrychwch ar ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn.

Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cynghori ar Fudd-daliadau ar gyfer Cyfranogi.

Pa gefnogaeth sydd ar gael?

Byddwch yn cael eich cefnogi gan Brif Ymchwilydd y prosiect. Os caiff y prosiect ei ariannu, bydd Cadeirydd y grŵp ar gael i ddarparu cymorth hefyd.

Sut ydw i'n ymgeisio?

Llenwch y ffurflen ar-lein a dywedwch wrthym sut yr ydych chi'n bodloni’r profiad angenrheidiol. 

Ansicr sut i lenwi'r ffurflen ar-lein neu hoffech drafod cyfle ymhellach?

Yna gall y tîm eich helpu, cysylltwch â ni trwy e-bost i drefnu sgwrs.

Mae mynediad at unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei rhannu â ni yn ddiogel, yn gyfyngedig ac yn cael ei thrin yn gyfrinachol.

Beth fydd yn digwydd nesaf.

Os yw eich cais yn cyd-fynd â'r profiad gofynnol, caiff ei anfon at arweinydd y prosiect.

Byddwn yn cysylltu â chi gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd eich cais.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni drwy e-bost neu ffoniwch 02920 230 457.

Categori cyfle:
gwyrdd

Dyddiad cau:

Lleoliad:
Gellir cynnal digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Sefydliad Lletyol:
Prifysgol Caerdydd

Submit Expression of Interest