Gwyddonydd Iechyd y Cyhoedd - Ymchwil/Epidemioleg - Public Health Wales
Mae cyfle wedi codi ar gyfer penodiad parhaol i rôl Gwyddonydd Iechyd y Cyhoedd yn yr Is-adran Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda phwyslais ar ymchwil ac epidemioleg.
Byddwch yn ymuno â'r Rhaglen Iechyd Cynhwysiant Clefydau Trosglwyddadwy (CDIHP) deinamig ac arloesol o fewn Diogelu Iechyd.
Byddwch yn helpu i ddatblygu a llunio rhaglen gadarn ac effeithiol o ymchwil, gwerthuso a goruchwylio er myn gwella dealltwriaeth ac ysgogi camau gweithredu ar yr heriau diogelu iechyd allweddol sy'n wynebu grwpiau iechyd cynhwysiant yng Nghymru. Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r Prif Ymchwilydd, CDIHP ac ar y cyd ag arweinwyr rhaglenni eraill o fewn CDIHP a'r Is-adran Diogelu Iechyd ehangach i ddatblygu ymchwil arloesol a darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad i bartneriaid sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau ymchwil a gwerthuso iechyd y cyhoedd. Byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr academaidd ac allanol i ddylunio a chynnal ymchwil, gwerthuso, goruchwylio a datblygu cynigion cyllid ymchwil.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o ddefnyddio dulliau meintiol a/neu ansoddol cymhleth priodol mewn maes perthynol i iechyd y cyhoedd er mwyn dylunio ymchwil, casglu data, dadansoddi a dehongli, gwerthuso gwasanaethau a goruchwyliaeth/ epidemioleg. Hefyd, bydd gennych gefndir gweithio cryf ym maes data ac ystadegau.
028-HS004-0125