Health Services Researcher - Velindre University NHS Trust
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Ymchwilydd Gwasanaethau Iechyd profiadol a brwdfrydig i ymuno â thîm Technoleg Iechyd Cymru (HTW).
Mae HTW yn gyfrifol am nodi, arfarnu a mabwysiadu technolegau iechyd ar draws GIG Cymru, gan gysylltu ag agendâu cenedlaethol ar gyfer arloesi a gofal iechyd darbodus. Mae HTW yn gyfrifol am gynnal arfarniadau o effeithiolrwydd clinigol a chost-effeithiolrwydd technolegau iechyd sydd ddim yn feddyginiaethau yng Nghymru, ac o weithio gyda GIG Cymru, ond yn annibynnol hefyd.
Bydd deiliaid y swydd yn cynnal adolygiadau o dystiolaeth er mwyn cefnogi defnyddio technolegau iechyd anfeddygol ar sail tystiolaeth, ac fel rhan o waith ehangach HTW i gefnogi Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Bydd deiliaid y swydd yn cyfrannu ei arbenigedd fel aelodau o'r tîm adolygu tystiolaeth, sy'n cynnwys cydweithio â staff ymchwil mewnol ac allanol a chefnogi meithrin gallu yn GIG Cymru.
120-AC782-0325