Beth am helpu i roi llais i gleifion canser a llunio ymchwil yng Nghymru
Beth am ddod yn Bartner Ymchwil Lleyg Arweiniol gyda Chanolfan Ymchwil Canser Cymru a rheoli eu grŵp cynnwys y cyhoedd.
Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
Bydd angen:
- Bod wedi'ch lleoli yng Nghymru ac wedi wynebu canser fel claf neu ofalwr
- 7Sgiliau trefnu ardderchog a’r gallu i gadw cofnodion da
- Hyfedredd TG, yn enwedig Zoom a Microsoft Teams
- Parodrwydd i adolygu gwybodaeth a dogfennau
- Teimlo'n gyfforddus yn cymryd rhan mewn trafodaethau
- Hyder i siarad mewn cyfarfodydd (ac mewn cynadleddau lle bo angen)
Byddai profiad yn unrhyw un o'r meysydd canlynol hefyd yn fanteisiol:
- Profiad blaenorol o gynnwys y cyhoedd
- Profiad o weithio gyda chleifion, cynrychiolwyr cleifion, defnyddwyr gwasanaethau ac ymchwilwyr academaidd a chlinigol.
- Profiad blaenorol o bwyllgorau
- Profiad o fod yn aelod o unrhyw banel neu grŵp
Mwy o wybodaeth
Mae Canolfan Ymchwil Canser Cymru yn gweithio gydag aelodau'r cyhoedd, cleifion canser, academyddion a chlinigwyr i ddatblygu a chyflenwi ymchwil rhagorol ledled Cymru.
Mae Canolfan Ymchwil Canser Cymru yn chwilio am un person o Gymru i ddod yn Bartner Ymchwil Lleyg Arweiniol ac i arwain eu grŵp Cynnwys y Cleifion a'r Cyhoedd.
Mae'r grŵp yn cynnwys aelodau’r cyhoedd sydd â phrofiad o ganser fel claf neu ofalwr i roi persbectif cyhoeddus amhrisiadwy ar y gwaith y mae'r ganolfan yn ei wneud, gan rannu profiadau personol, rhoi adborth a dylanwadu ar nodau ymchwil hirdymor a helpu i ddatblygu adnoddau drwy gymryd rhan mewn grwpiau a phwyllgorau strategol.
Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
Bydd yn ofynnol i'r Partner Ymchwil Lleyg Arweiniol reoli a chyflawni’r Grŵp Partneriaid Ymchwil Lleyg gan gynnwys arwain cyfarfodydd y grŵp Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd yn chwarterol.
Byddwch yn gweithredu fel aelod craidd o uwch grŵp arweinyddiaeth Canolfan Ymchwil Canser Cymru ac yn cynrychioli grŵp Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd o fewn strwythurau llywodraethu Canolfan Ymchwil Canser Cymru.
Bydd angen i chi adolygu dogfennau a chyfrannu at adroddiadau, ceisiadau a chyfathrebu Canolfan Ymchwil Canser Cymru.
Byddwch yn hyrwyddo arfer gorau o ran cynnwys cleifion a'r cyhoedd i ymchwilwyr canser yng Nghymru a gwaith Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd Canolfan Ymchwil Canser Cymru i'r gymuned ymchwil ehangach.
Lle bo'n briodol, byddwch hefyd yn cynrychioli gweithgareddau Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd Canolfan Ymchwil Canser Cymru ar grwpiau allanol.
Bydd gofyn i chi fynychu tua 12 cyfarfod/digwyddiad y flwyddyn, a fydd yn para rhwng dwy a thair awr. Bydd cyfarfodydd wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd o dro i dro.
Bydd angen gwaith paratoi hefyd, felly, yr amcangyfrif yw, y bydd tua 10-20 awr o waith y mis.
Pa mor hir fydd fy angen?
3 blynedd gyda'r posibilrwydd o adnewyddu.
Beth yw rhai o'r buddion i mi?
Buddion i chi :
- Helpu i wella ymchwil canser yng Nghymru
- Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).
- Talu costau teithio rhesymol i fynychu cyfarfodydd Canolfan Ymchwil Canser Cymru
- Amrywiaeth o gymhellion fel mynediad i lyfrgelloedd prifysgol a chyfleoedd i ddilyn cyrsiau byr
Edrychwch ar ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn.
Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cynghori ar Fudd-daliadau ar gyfer Cyfranogi.
Pa gefnogaeth sydd ar gael?
Bydd Canolfan Ymchwil Canser Cymru yn rhoi cefnogaeth ac yn pennu person cyswllt dynodedig. Mae'r Arweinydd Lleyg sy'n gadael hefyd wedi cynnig darparu hyfforddiant a chymorth.
Sut ydw i'n ymgeisio?
Llenwch y ffurflen ar-lein a dywedwch wrthym sut yr ydych chi'n bodloni’r profiad angenrheidiol.
Ansicr siŵr sut i lenwi'r ffurflen ar-lein neu hoffech drafod cyfle ymhellach?
Yna gall y tîm eich helpu, cysylltwch â ni trwy e-bost i drefnu sgwrs.
Mae mynediad at unrhyw wybodaeth rydych yn ei rhannu â ni yn ddiogel, yn gyfyngedig ac yn cael ei thrin yn gyfrinachol.
Beth fydd yn digwydd nesaf.
Os yw eich cais yn cyd-fynd â'r profiad gofynnol, caiff ei anfon at arweinydd y prosiect.
Byddwn yn cysylltu â chi gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd eich cais.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni drwy e-bost neu ffoniwch 02920 230 457.
Categori cyfle:
red
Dyddiad cau:
Lleoliad:
Caerdydd
Sefydliad Lletyol:
Canolfan Ymchwil Canser Cymru