Ydych chi eisiau helpu i wella cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru?
Helpwch i lunio arolwg hygyrch a fydd yn archwilio profiad a boddhad pobl sy'n cymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn datblygu arolwg a fydd yn cael ei ddefnyddio'n lleol ac yn genedlaethol i wella'r profiad ymchwil i bawb sy'n cymryd rhan.
Byddwch yn helpu i lunio'r arolwg a sicrhau ei fod yn glir, yn hygyrch ac yn ystyrlon. Mae hwn yn gyfle i fynegi eich barn a dylanwadu ar sut mae pobl sy’n cymryd rhan mewn ymchwil yn cael eu trin a'u deall.
- Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol arnoch, ond byddai'r canlynol yn ddefnyddiol:
- Rydych wedi cymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil
- Gallwch roi adborth gonest, meddylgar
- Diddordeb mewn gofal iechyd, ymchwil, neu wella profiad cleifion
- Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
- Bod mewn dau gyfarfod ar-lein (1 awr yr un) a threulio awr yn paratoi ar gyfer pob un
- Adolygu a rhoi sylwadau ar gwestiynau'r arolwg
- Helpu i wella sut mae’r cwestiynau wedi’u geirio a'u deall
- Pa mor hir y bydd fy angen?
- Pythefnos - Bydd eich angen chi am bedair awr dros bythefnos – mae hyn yn cynnwys amser cyfarfod a pharatoi. Bydd dyddiad y cyfarfodydd yn cael ei benderfynu ar ôl dewis.
- Beth yw rhai o 'r manteision i mi?
- Cael effaith wirioneddol ar yr arolwg a sicrhau ei fod yn hawdd ei ddefnyddio
- Datblygu eich sgiliau a dysgu am y broses datblygu ymchwil
- Bod yn rhan o dîm cyfeillgar a chynhwysol
- Pa gymorth sy'n cael ei gynnig?
- Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).
- Cyfle i ofyn cwestiynau i'r ymchwilydd yn unigol ac fel rhan o grŵp ffocws
Edrychwch ar ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn.
Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau wrth Helpu ag Ymchwil.
Llenwch y ffurflen isod
Dyddiad cau:
Lleoliad:
Ar-lein
Sefydliad Lletyol:
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn
Cysylltwch â'r tîm