Helpu i wella gwasanaethau iechyd yng Nghymru

Helpu ymchwilwyr i rannu canfyddiadau eu hymchwil i wella gofal iechyd.

Mae angen gwybodaeth ddibynadwy ar wasanaethau iechyd o ymchwil i'w helpu i wneud penderfyniadau am ofal cleifion. Mae ymchwil yn cynnig cipolwg gwerthfawr ar yr hyn sy'n gwneud gwasanaethau iechyd neu bolisïau yn llwyddiannus neu'n aflwyddiannus, sut mae cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ymddwyn a sut beth yw byw gyda salwch mewn gwirionedd. Mae'r dystiolaeth ymchwil hefyd yn ein helpu i ddeall profiadau amrywiol cleifion yn well.

Er bod nifer y crynodebau tystiolaeth ymchwil wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, nid yw llawer o'r astudiaethau hyn yn cael eu hadrodd yn glir, sy'n ei gwneud hi'n anodd i gleifion, staff y GIG a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ymddiried neu ddefnyddio’r wybodaeth. Heb ganllawiau clir, mae'n bosibl y bydd dealltwriaeth bwysig yn cael ei methu, gan leihau’r gallu i wella gofal iechyd.

Er mwyn sicrhau bod tystiolaeth ansoddol yn ddefnyddiol, mae angen i ymchwilwyr gynhyrchu crynodebau o ansawdd uchel a'u cyflwyno mewn ffordd ddealladwy. Fodd bynnag, nid oes canllawiau wedi'u diweddaru ar sut i gyflawni hyn ar hyn o bryd felly hoffent gael eich cymorth i lunio'r canllawiau

Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
  • Yn gyfforddus gyda trafodaethau grŵp
  • Profiad o adolygu papurau ymchwil i gasglu cipolwg a gwybodaeth
  • Profiad o gynnwys cleifion a'r cyhoedd drwy gyfuno tystiolaeth
Beth fydd gofyn i mi ei wneud?

Gofynnir i chi ymuno â grŵp cynghori gyda phum aelod arall o'r cyhoedd. Gyda'ch gilydd, byddwch yn helpu i ddatblygu canllawiau a fydd yn ei gwneud yn haws defnyddio canlyniadau ymchwil mewn penderfyniadau am ofal iechyd a gofal cleifion. 

Bydd eich rôl yn cynnwys: 

1.  Cyfrannu at drafodaethau mewn cyfarfodydd grŵp cynghori prosiect

2.  Edrych dros a rhannu eich meddyliau ar ddrafftiau o'r canllawiau a'r dogfennau cysylltiedig. 

3.  Darllen a rhoi adborth ar daflenni gwybodaeth ar gyfer cyfranogwyr. 

4.  Gwerthuso pa mor ddefnyddiol yw enghreifftiau presennol o ganfyddiadau ymchwil.

Darperir cefnogaeth a hyfforddiant os bydd angen.

Pa mor hir fydd fy angen?

Bydd eich angen am - dri cyfarfod grŵp cynghori diwrnod llawn, sesiwn friffio cyn cyfarfod ar gael yn ôl yr angen.  Y dyddiadau dros dro ar gyfer y cyfarfodydd hyn yw Mehefin 2025, Medi 2025, Mai 2026. Gellir ymgymryd â thasgau eraill hyd at ddiwedd y prosiect (Mawrth 2027).

Beth yw rhai o'r buddion i mi?
  • Derbyn hyfforddiant (yn ôl yr angen) i gael mynediad at ddogfennau ar-lein, cyfarfodydd ar-lein ac unrhyw agweddau ar gyfuno tystiolaeth ansoddol.
What support is offered?
  • Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol, 

  • Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).
  • Cefnogir gan berson cyswllt penodol sy'n Arweinydd Ymgysylltu â Chleifion a'r Cyhoedd ar gyfer y prosiect.

Edrychwch ar ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn. 

Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cynghori ar Fudd-daliadau ar gyfer Cyfranogi.

Llenwch y ffurflen isod

Sut wnaethoch chi glywed am y cyfle hwn?
Os cyfryngau cymdeithasol, pa sianel?
Rydw i wedi darllen a chytuno i’r cytundeb cynnwys y cyhoedd
Datganiad GDPR

Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n defnyddio’r wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu er mwyn i ni berfformio’r dasg rydych chi’n darparu’r wybodaeth ar ei chyfer yn unig. Dilynwch y ddolen i’n Polisi Preifatrwydd a thicio isod i ddangos eich bod yn cytuno i ni fwrw ymlaen â’r dasg:Rydw i’n cytuno

Dyddiad cau:

Lleoliad:
Ar-lein

Sefydliad Lletyol:
Helpu ymchwilwyr i rannu canfyddiadau eu hymchwil i wella gofal iechyd

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn

Cysylltwch â'r tîm