Helpu ymchwilwyr i wella'r nifer sy'n manteisio ar brawf sgrinio'r coluddyn.
Defnyddiwch eich profiad i nodi rhwystrau sy'n atal pobl â phroblemau iechyd meddwl difrifol rhag manteisio ar wasanaethau sgrinio.
Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
- Profiad bywyd o ganser y coluddyn
- profiad bywyd o broblemau iechyd meddwl difrifol neu o ofalu am rywun â phroblemau iechyd meddwl difrifol
- gofalu am rywun nad oedd wedi cymryd rhan mewn sgrinio canser y coluddyn
- yn byw yng Nghymru
- yn gyfforddus yn darllen dogfennau prosiect ac yn rhannu eich syniadau â'r tîm ymchwil
Mwy o wybodaeth
Hoffai ymchwilwyr ddatblygu prosiect sy'n ystyried pam mae pobl â salwch meddwl difrifol yn ei chael hi’n anodd manteisio ar sgrinio iechyd, gan gynnwys canser y coluddyn.
Hoffai'r tîm ymchwil ddarganfod faint o bobl â salwch meddwl difrifol sydd wedi cymryd rhan mewn sgrinio canser y coluddyn, os oes gan unrhyw ardaloedd yng Nghymru gyfraddau is o bobl yn cymryd rhan yn y sgrinio ac ystyried unrhyw resymau pam mae yna wahaniaethau.
Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
Bydd gofyn i chi fynychu cyfarfod ar-lein neu alwad ffôn i drafod y prosiect ymchwil â’r tîm ymchwil. Byddwch yn darllen gwybodaeth y prosiect ac yn rhoi eich adborth ar sut y byddai modd llunio'r prosiect i sicrhau bod y tîm yn cyrraedd eu nod o ddeall y nifer sy'n cael eu sgrinio ymhlith pobl â salwch meddwl difrifol.
Pa mor hir fydd fy angen?
Bydd cyfarfod cychwynnol o 1.5 awr i drafod y syniad ymchwil a chyfarfodydd rheolaidd i ddatblygu'r prosiect tan i’r cais gael ei gyflwyno.
Yna bydd 2.5 awr arall i ddarllen yr wybodaeth a'r cynlluniau ymchwil a rhoi eich adborth a'ch syniadau.
Os cewch eich gwahodd i fod yn gyd-ymgeisydd, gofynnir i chi fynychu cyfarfodydd rheolaidd bob tri mis, yn ystod y prosiect.
Beth yw rhai o'r buddion i mi?
Bydd ein tîm yn:
- cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn cael budd-daliadau'r wladwriaeth).
- cynnig i chi fod yn gyd-ymgeisydd ar yr astudiaeth
- dysgu sut mae ymchwil yn cael ei gynllunio a'i gynnal
- magu’ch hyder wrth fynychu cyfarfodydd a rhannu’ch barn
Edrychwch ar ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn.
Os ydych yn cael unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cynghori ar Fudd-daliadau ar gyfer Cyfranogi.
Pa gefnogaeth sydd ar gael?
Cewch eich cefnogi gan aelod penodol o'r tîm ymchwil.
Sut ydw i'n ymgeisio?
Llenwch y ffurflen ar-lein a dywedwch wrthym sut rydych chi'n bodloni’r profiad angenrheidiol.
Os nad ydych yn siŵr sut i lenwi'r ffurflen ar-lein neu os hoffech drafod cyfle ymhellach
yna gall y tîm eich helpu, cysylltwch â ni drwy e-bost i drefnu sgwrs.
Mae mynediad at unrhyw wybodaeth rydych yn ei rhannu â ni yn ddiogel, yn gyfyngedig ac yn cael ei thrin yn gyfrinachol.
Beth fydd yn digwydd nesaf.
Os yw eich cais yn cyd-fynd â'r profiad gofynnol, caiff ei anfon at arweinydd y prosiect.
Byddwn yn cysylltu â chi gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd eich cais.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni drwy e-bost neu ffoniwch 02920 230 457.
Categori cyfle:
gwyrdd
Dyddiad cau:
Lleoliad:
Cynhelir cyfarfodydd ar-lein
Sefydliad Lletyol:
Canolfan PRIME Cymru