Helpu pobl y mae tlodi hylendid yn effeithio’n annheg arnynt
Mae ymchwilwyr eisiau deall pam mae tlodi hylendid yn digwydd yn fwy i bobl sy'n derbyn gofal cymdeithasol.
Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
Rydym yn chwilio am:
- bobl sydd mewn cysylltiad â gweithwyr proffesiynol y gwasanaethau cymdeithasol drwy eu hawdurdod lleol ac sydd wedi cael trafferth fforddio nwyddau hylendid fel siampŵ, diaroglyddion a phast dannedd.
- ffrindiau a theulu pobl sydd wedi cael trafferth fforddio nwyddau hylendid fel siampŵ, diaroglyddion a phast dannedd.
- Pobl sy'n gwirfoddoli mewn banciau bwyd neu grwpiau eglwysi sy'n dosbarthu cynhyrchion hylendid fel siampŵ, diaroglyddion a phast dannedd.
- pobl sy'n gallu defnyddio e-bost a/neu ffôn i roi adborth a siarad am yr ymchwil
Mwy o wybodaeth
Mae'r ymchwil hon yn ymwneud â chynhyrchion hylendid cyffredin fel siampŵ, diaroglyddion a phast dannedd. Gelwir peidio â gallu prynu'r cynhyrchion hyn yn 'tlodi hylendid'.
Gall tlodi hylendid effeithio ar iechyd corfforol a meddyliol pobl, yn ogystal â'u gallu i gymryd rhan mewn sefyllfaoedd cymdeithasol, fel gweld ffrindiau a theulu. Y gred yw bod tlodi hylendid yn llawer uwch mewn oedolion ag anableddau. O ganlyniad, mae gan yr ymchwil hon ddiddordeb arbennig mewn edrych ar dlodi hylendid mewn oedolion sy'n derbyn gofal gan y gwasanaethau cymdeithasol, oherwydd mae'n ymddangos bod tlodi hylendid yn effeithio'n annheg ar y grŵp hwn o bobl.
Er eich bod efallai wedi gweld y cyfryngau’n adrodd ar dlodi hylendid, ychydig iawn o ymchwil sydd wedi bod arno, ac nid oes unrhyw ymchwil sy’n edrych yn benodol ar ddefnyddwyr gofal cymdeithasol i oedolion.
Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
Darllen, gwneud sylwadau a rhoi adborth ar y cynlluniau ymchwil a'r wybodaeth.
Pa mor hir fydd fy angen?
Bydd dau gyfarfod, awr yr un, yn cael eu cynnal ar adeg sy'n addas i chi.
Beth yw rhai o'r buddion i mi?
Bydd ein tîm yn:
- talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol,
- cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).
- rhoi cyfle i chi ddysgu mwy am ddylunio ymchwil.
- rhoi cyfle i chi ddysgu mwy am dlodi hylendid a sut mae'n effeithio ar ddefnyddwyr gofal cymdeithasol.
- cynnig posibilrwydd o barhau i gefnogi'r prosiect ymchwil os ydynt yn llwyddo i gael eu grant i ymuno â'r Grŵp Cynnwys y Cyhoedd yr Ymchwil.
Edrychwch ar ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn.
Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cynghori ar Fudd-daliadau ar gyfer Cyfranogi.
Pa gefnogaeth sydd ar gael?
Bydd cefnogaeth yn cael eu rhoi gan arweinydd cynnwys y cyhoedd yr astudiaeth. Mae natur sensitif y pwnc yn golygu y byddwch yn gallu rheoli yn llwyr y modd yr ydych yn cyfrannu (yn ddienw, ar-lein, ar y ffôn, yn unigol, mewn grwpiau bach ac ati).
Sut ydw i'n ymgeisio?
Llenwch y ffurflen ar-lein a dywedwch wrthym sut rydych chi'n bodloni’r profiad angenrheidiol.
Ddim yn siŵr sut i lenwi 'r ffurflen ar-lein neu hoffech drafod cyfle ymhellach?
Yna gall y tîm eich helpu, cysylltwch â ni trwy e-bost i drefnu sgwrs.
Mae mynediad at unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei rhannu â ni yn ddiogel, yn gyfyngedig ac yn cael ei thrin yn gyfrinachol.
Beth fydd yn digwydd nesaf.
Os yw eich cais yn cyd-fynd â'r profiad gofynnol, caiff ei anfon at arweinydd y prosiect.
Byddwn yn cysylltu â chi gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd eich cais.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni drwy e-bost neu ffoniwch 02920 230 457.
Categori cyfle:
gwyrdd
Dyddiad cau:
Lleoliad:
Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar-lein
Sefydliad Lletyol:
Prifysgol Caerdydd