Helpwch i ddewis arweinwyr ymchwil nesaf Cymru.

Dewch yn Aelod Panel ac adolygu ceisiadau ar gyfer ein Huwch-arweinwyr Ymchwil nesaf.

Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?

Bydd angen i chi:

  • fod â phrofiad o fod yn rhan o banel cyllido ac adolygu ceisiadau am gyllid
  • gallu gwerthuso ceisiadau a darparu adborth adeiladol
  • bod yn gyfarwydd â phrosesau ariannu yn y sectorau iechyd neu ofal cymdeithasol

Mwy o wybodaeth

Mae Uwch-arweinwyr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn ymchwilwyr amlwg sy'n arwain, mentora ac yn hyrwyddo ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Maent yn cefnogi Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ac yn cyfrannu at baneli cyllido, byrddau cynghori, a mentrau ymchwil ar lefel y DU.

Byddwch yn darparu adborth amhrisiadwy ar geisiadau ac yn helpu i ddewis y grŵp nesaf o Uwch Arweinwyr Ymchwil.

Beth fydd gofyn i mi ei wneud?

Byddwch yn cymryd rhan mewn cyfarfod panel undydd ar 27 Chwefror 2025 lle byddwch yn adolygu ceisiadau ac yn cyfrannu at y broses ddethol ar gyfer y Cynllun Uwch Arweinwyr Ymchwil.

Bydd angen i chi hefyd fynychu cyfarfod un awr ymlaen llaw i baratoi ar gyfer y panel ac adolygu'r ceisiadau a allai gymryd hyd at un diwrnod.

Pa mor hir fydd fy angen?

Bydd y prif gyfarfod panel yn cael ei gynnal rhwng 9:00am a 17:00 a bydd cyfarfod am awr cyn y panel y bydd angen i chi fod yn bresennol ynddo ac adolygu'r ceisiadau a allai gymryd hyd at un diwrnod.

Beth yw rhai o'r buddion i mi?

Buddion i chi :

  • Profiad gwerthfawr o brosesau adolygu gan banel ac ariannu o fewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol
  • Cyfrannu at benderfyniadau sy'n cefnogi arweinwyr y dyfodol mewn meysydd iechyd a gofal

Bydd ein tîm yn: 

  • Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol,
  • Cynnig taliad am amser o £150.00 y dydd (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).

Edrychwch ar ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn.

Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cynghori ar Fudd-daliadau ar gyfer Cyfranogi.

Pa gefnogaeth sydd ar gael?

Bydd tîm y Gyfadran yn darparu cefnogaeth ac yn dynodi person cyswllt i'ch tywys drwy'r broses.

Cyn y panel, byddwch yn cwrdd â thîm y Gyfadran a fydd yn esbonio'r hyn a ddisgwylir ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. 

Sut ydw i'n ymgeisio?

Llenwch y ffurflen ar-lein a dywedwch wrthym sut rydych chi'n bodloni’r profiad angenrheidiol. 

Ddim yn siŵr sut i lenwi'r ffurflen ar-lein neu hoffech drafod cyfle ymhellach?

Yna gall y tîm eich helpu, cysylltwch â ni trwy e-bost i drefnu sgwrs.

Mae mynediad at unrhyw wybodaeth rydych yn ei rhannu â ni yn ddiogel, yn gyfyngedig ac yn cael ei thrin yn gyfrinachol.

Beth fydd yn digwydd nesaf.

Os yw eich cais yn cyd-fynd â'r profiad gofynnol, caiff ei anfon at arweinydd y prosiect.

Byddwn yn cysylltu â chi gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd eich cais.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni drwy e-bost neu ffoniwch 02920 230 457.

Categori cyfle:
red

Dyddiad cau:

Lleoliad:
Ar-lein neu'n bersonol (union leoliad i'w gadarnhau)

Sefydliad Lletyol:
Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Submit Expression of Interest