Dr Helen Hodges
Gwobrau Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Gwobr: Cymrodoriaethau Ymchwil Gofal Cymdeithasol (2022 - 2027)
Gwobr: Cynllun Ariannu Ymchwil: Grant Gofal Cymdeithasol (2020 - 2022)
Teitl y prosiect: Looked after children in the youth justice system: A mixed methods feasibility study
Bywgraffiad
Gan weithio yn y cydgysylltiad rhwng troseddeg a gofal cymdeithasol, mae diddordeb penodol Dr Helen Hodges mewn cyfiawnder cymdeithasol a gwahanol fathau o anghydraddoldeb a wynebir gan blant a phobl ifanc. Mae’n dod o gefndir rhyng-ddisgyblaeth ac wedi datblygu diddordeb penodol yn sut y gellir defnyddio’r data a gesglir gan wahanol sefydliadau i hysbysu’r sail dystiolaeth ynghylch materion cymdeithasol cymhleth. Mae gwaith ymchwil Helen yn tueddu felly i ddefnyddio data gweinyddol i ddarparu sail dystiolaeth gadarn i hysbysu polisi ac arferion. Trwy chwilio am ffyrdd o ganolbwyntio ar faterion sy’n effeithio ar niferoedd bach yn y boblogaeth gyffredinol, ei dymuniad yw gwneud gwaith dadansoddi yn unol â fframwaith Bayesaidd. Mae’n teimlo bod hyn yn caniatáu iddi edrych drwy lens ffres, heb gael ei chyfyngu gan y cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â thechnegau ystadegol traddodiadol.
Darllen mwy am Helen a’u gwaith:
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyhoeddi enwau enillwyr dros £5 miliwn o wobrau ariannol am 2019-20
Dyfarnu bron i £6.5 miliwn i ymchwil achub bywyd yng Nghymru