Ydych chi eisiau helpu pobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl neu niwroddatblygiadol i gael gwell gofal?

Beth am helpu i gefnogi datblygu gwasanaeth unigryw a llunio dyfodol geneteg iechyd meddwl yng Nghymru.

Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?

Byddai o gymorth pe bai:

  • profiad personol neu brofiad bywyd gennych o gyflwr iechyd meddwl neu niwroddatblygiadol, fel awtistiaeth, anhwylder gorfywiogrwydd a diffyg canolbwyntio (ADHD), anhwylder deubegynol, iselder dwys a sgitsoffrenia
  • diddordeb gennych mewn cyfrannu at ymchwil sy'n cynnwys gwybodaeth genetig a gofal iechyd meddwl
  • dealltwriaeth gennych (ar lefel sylfaenol) bod ffactorau genetig yn gallu cyfrannu at gyflyrau iechyd meddwl a niwroddatblygiadol

Mwy o wybodaeth

Mae Gwasanaeth Genomeg Seiciatrig Cymru Gyfan, a sefydlwyd yn 2022, yn rhoi cwnsela genetig a phrofion i bobl â chyflyrau iechyd meddwl a niwroddatblygiadol.

Mae'r astudiaeth hon yn ceisio deall effeithiau hirdymor amrywiolion seiciatrig genetig ar gleifion a'u teuluoedd.

Bydd eich cyfranogiad yn amhrisiadwy wrth helpu ymchwilwyr i benderfynu sut y gall y gwasanaeth wella gofal a chymorth.

Beth fydd gofyn i mi ei wneud?

Mynychu tri chyfarfod awr ar-lein i helpu ymchwilwyr i ddatblygu'r protocol a nodi'r meysydd sy’n bwysicaf i gleifion.

Bydd gennych chi hefyd y dewis i barhau fel cyfrannwr cyhoeddus os bydd yr astudiaeth yn cael ei hariannu.

Pa mor hir fydd fy angen?

Tri chyfarfod ar-lein, pob un yn para am awr, gydag awr ychwanegol o baratoi cyn pob cyfarfod. Bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal bob mis. 

Beth yw rhai o'r buddion i mi?

Buddion i chi :

  • Chwarae rhan allweddol wrth lunio gwasanaeth geneteg iechyd meddwl blaengar.
  • Datblygu eich dealltwriaeth o brosesau ymchwil, gan gynnwys creu protocolau a nodi meysydd ymchwil.
  • Cyfleoedd i arwain neu gadeirio cyfarfodydd, ysgrifennu postiadau blog ac o bosibl ymuno â'r astudiaeth fel cyfrannwr os caiff ei hariannu.

Bydd ein tîm yn: 

  • Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol,
  • Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).

Edrychwch ar ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn.

Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cynghori ar Fudd-daliadau ar gyfer Cyfranogi.

Pa gefnogaeth sydd ar gael?

Person cyswllt dynodedig i'ch cynorthwyo gydag unrhyw gwestiynau neu gefnogaeth y gallai fod eu hangen arnoch.

Bydd adnoddau hyfforddi a gwybodaeth yn cael eu darparu i’ch cefnogi i gymryd rhan.

Sut ydw i'n ymgeisio?

Llenwch y ffurflen ar-lein a dywedwch wrthym sut yr ydych chi'n bodloni’r profiad angenrheidiol. 

Ansicr sut i lenwi'r ffurflen ar-lein neu hoffech drafod cyfle ymhellach?

Yna gall y tîm eich helpu, cysylltwch â ni trwy e-bost i drefnu sgwrs.

Mae mynediad at unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei rhannu â ni yn ddiogel, yn gyfyngedig ac yn cael ei thrin yn gyfrinachol.

Beth fydd yn digwydd nesaf.

Os yw eich cais yn cyd-fynd â'r profiad gofynnol, caiff ei anfon at arweinydd y prosiect.

Byddwn yn cysylltu â chi gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd eich cais.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni drwy e-bost neu ffoniwch 02920 230 457.

Categori cyfle:
gwyrdd

Dyddiad cau:

Lleoliad:
Ar-lein

Sefydliad Lletyol:
Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol

Submit Expression of Interest