Ydych chi wedi bod yn y cyfnod esgor neu wedi rhoi genedigaeth gartref neu mewn canolfan geni ac wedi gorfod cael eich trosglwyddo i'r ysbyty?
Helpwch ymchwilwyr i ddeall yr effaith y gall y broses drosglwyddo hon ei chael trwy rannu’r profiad o gael eich trosglwyddo.
Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
Bydd angen i chi fod:
- wedi bwriadu cael eich babi gartref neu mewn canolfan geni annibynnol dan arweiniad bydwragedd
- wedi gorfod cael eich trosglwyddo i'r ysbyty naill ai yn ystod y cyfnod esgor neu’n fuan ar ôl cael eich babi
- ar gael i fynychu cyfarfod ar-lein naill ai ddydd Iau 17 Hydref 19:00-20:30 neu ddydd Gwener 11 Hydref 13:00-14:30.
Mwy o wybodaeth
Mae ymchwilwyr eisiau siarad â phobl y bu'n rhaid iddynt gael eu trosglwyddo o'u cartref neu ganolfan geni annibynnol dan arweiniad bydwragedd i ysbyty yn ystod y cyfnod esgor neu yn fuan ar ôl rhoi genedigaeth. Trwy'r ymchwil hwn, mae'r tîm yn anelu at ddefnyddio'r wybodaeth i helpu i lunio ymchwil yn y dyfodol i drosglwyddiadau i'r ysbyty.
Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
Fe'ch gwahoddir i gyfarfod ar-lein i rannu'r hyn y credwch y dylai eraill ei wybod am gael eich trosglwyddo ac i helpu i lunio'r hyn y dylai ymchwil edrych arno yn y dyfodol mewn perthynas â throsglwyddiadau. Gofynnir i chi hefyd helpu i lunio arolwg ar gyfer grŵp mwy i nodi eu profiadau.
Pa mor hir fydd fy angen?
Gofynnir i chi fynychu cyfarfod ar-lein a fydd yn para awr a hanner a darllen darn byr o wybodaeth am y prosiect. Gallwch chi fynychu un o'r dyddiadau canlynol:
- Dydd Iau 17 Hydref 19:00 – 20:30
- Dydd Gwener 11 Hydref, 13:00 – 14:30
Rhowch wybod i ni pa ddyddiad yr hoffech chi ei fynychu.
Os caiff y prosiect ei ariannu, efallai y bydd opsiwn i fod yn rhan o'r prosiect ymhellach.
Beth yw rhai o'r buddion i mi?
Buddion i chi:
- Cwrdd â phobl sydd â diddordeb tebyg i chi
- Helpu i lunio ymchwil bydwreigiaeth yn y dyfodol
- Cael effaith uniongyrchol ar gyfeiriad a chanlyniad y prosiect
Bydd ein tîm yn:
- Talu costau gofalwr neu ofal plant ychwanegol rhesymol,
- Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).
Edrychwch ar ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn.
Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cynghori ar Fudd-daliadau ar gyfer Cyfranogi.
Pa gefnogaeth sydd ar gael?
Bydd arweinydd y prosiect ar gael i ddarparu gwybodaeth am y prosiect cyn y cyfarfod.
Sut ydw i'n ymgeisio?
Llenwch y ffurflen ar-lein a dywedwch wrthym sut rydych chi'n bodloni’r profiad angenrheidiol.
Ddim yn siŵr sut i lenwi'r ffurflen ar-lein neu awydd trafod cyfle ymhellach?
Yna gall y tîm eich helpu, cysylltwch â ni trwy e-bost i drefnu sgwrs.
Mae mynediad at unrhyw wybodaeth rydych yn ei rhannu â ni yn ddiogel, yn gyfyngedig ac yn cael ei thrin yn gyfrinachol.
Beth fydd yn digwydd nesaf.
Os bydd eich cais yn cyd-fynd â'r profiad gofynnol, caiff ei anfon at arweinydd y prosiect.
Byddwn yn cysylltu â chi gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am hynt eich cais.
Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni drwy e-bost neu ffoniwch 02920 230 457.
Categori cyfle:
gwyrdd
Dyddiad cau:
Lleoliad:
Ar-lein
Sefydliad Lletyol:
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys